LIVERPOOL WELSH
                     Bethel

Home

Societies

Welsh Churches

'Yr Angor'
(Local Paper)

Local Welsh
Characters

Books & Publications

Missionary Witness

Archive
Material

Learn the Language

Cymry Lerpwl

 
Bethel, Liverpool

(Click here for map)

Calendr Tachwedd - Rhagfyr 2019

 

Dathlu 50 mlynedd fel Gweinidog ac Arweinydd y Presbyteriaid yn Lerpwl. / Celebrating 50 years  as Minister  of Welsh Presbyterians in Liverpool.  in a Service at Bethel Presbyterian Church of Wales, Heathfield Road/ Auckland Road, Liverpool 15./18 on 22 July, 2018.


Nerys Vaughan Jones yn synnu at y wledd ar ol yr Oedfa/ Nerys Vaughan Jones  is amazed  at the meal provided for the congregation.


Teulu Jo Clitherow and Mr and Mrs Gaynor Hunt
Family of Jo Clitherow and Mr and Mrs Gaynor Hunt


Wena Evans a Rhiannon Liddell ( one of the organists )

 

 

 

 

 

 

 

+


Cynulleidfa Bethel yn moli yr Arglwydd
Congregation at Bethel


Arweinwyr Presbyteriaeth Gymraeg 2018 / Leaders of Welsh Presbyterianism in Liverpool in the year 2018


Norma Closs  Parry yn cyflwyno Cywydd I Dr DB Rees/ The poet Norman Closs Parry presenting the poem
he wrote on the Celebration


Darllen Gair Duw / Reading the Word of God


Blaenoriaid Bethel a Bethania / Elders of Bethel
and Bethania Chapels


Norman Closs  a’I ferch a’r wyres
The poet and his family


Gwyn Jones, Ben Hughes,
Terry and Phyllis O’Neill, Mair Rees Jones


R.Ifor Griffith, Mair Roberts a Rhiannon Liddell


Elin and Jim Boyle and Blodwen Roberts


Susan Evans  and Margaret Rowlands


The Clitherow and Hunt  families


Dr John yn  cyflwyno I Dr Ben anrheg
Dr John presenting a gift to Dr Ben


Norman Cloos Parry yn cyflwyno Cywydd  I DBr
 The poet Norman Closs Parry presenting the poem dedicated to Dr Rees

 

Y Rhai a gymerodd ran yn yr oedfa / Those who took part in the service :


Mr John P.Lyons Llywydd/ Presiding


Nan Hughes Parry


Dr Pat Williams


Mrs Mair Rees Jones


Margaret Anwyl Williams ( organydd/organist )


W.Meirion Evans


Dr John G. Williams


Dr D.Ben Rees


Y Gynulleidfa / The congregation

 

Cymdeithas
Lenyddol Bethel, Lerpwl

 


Bethel, Lerpwl

   

Arweinwyr Eglwysi Bethel a Bethania

 

 


 
Y RHWYD

 

 

 

Cylchlythyr Eglwysi Bresbyteraidd Cymru,

Bethel, Heathfield Road / Auckland Road, L15 9EU a

Bethania, Crosby Road South, Waterloo L22 1RJ

  

Annwyl Aelodau,

“Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr yn dwyn ei waith i ben.” Felly y dywed William

Cowper yn ei emyn. Ychydig feddyliwn i y byddai’r cyfrifoldeb a’r fraint o baratoi Y

Rhwyd yn disgyn arnaf fi, ond dyna fo – rhaid oedd camu i’r adwy a chynorthwyo’r

Dr Ben Rees ar yr awr anodd yma yn ei hanes, a’i annwyl briod, Meinwen wedi bod

mor eithriadol wael. Mae meddwl ei fod wedi bod wrthi’n dwyn Y Rhwyd i olau dydd

yn ddi-fwlch am gyfnod o hanner can mlynedd yn record anghyffredin, ac yn haeddu

ein cymeradwyaeth gwresocaf. Gwyddom i gyd am egni di-ddiwedd ein gweinidog,

am ei frwdfrydedd yn y gwaith ac am ei drylwyredd yn paratoi’r cyfan. Derbynied ein

diolch diffuantaf. Ni allodd fod wedi cyflawni’r hanner oni bai am gefnogaeth ei

annwyl Meinwen. Diolchwn iddi hithau am ei holl waith ar hyd y blynyddoedd fel

gwraig a merch y mans, ac eiddunwn adferiad buan iawn iddi. Rydym wedi gweld ei

cholli’n fawr iawn.

Cofio Henry Rees

Mae hi’n teimlo’n amser pell yn ôl erbyn hyn, ond drwy wahoddiad Dr Ben Rees,

cafodd Cantorion Bethel o dan arweiniad Mr R. Ifor Griffith a chyda chyfeiliant

Margaret Anwyl Williams y fraint o gymryd rhan mewn noson yn Llansannan i gofio’r

pregethwr a’r cymeriad unigryw hwnnw, Henry Rees, a dreuliodd ran helaethaf ei

fywyd yn Lerpwl. Braint oedd cael gwrando ar y Parchedig Ddr Goronwy Prys Owen,

Y Bala yn darlithio ar hanes y gŵr rhyfeddol hwn.

Coffad: Mair Williams, Gatecare (1935-2019)

Ym marwolaeth y chwaer addfwyn ac annwyl hon wedi cystudd byr, fe’n

hamddifadwyd ni a’n bylchu’n arw fel cymuned Gymraeg. Yn un o chwech o ferched,

ac yn berson galluog iawn, fe aned Mair yng Nghefnbodig, ger tref y Bala, ac yn ei

thro, fe gafodd fynd i’r Coleg Normal i hyfforddi fel athrawes. Fel ugeiniau o’i

chyfoedion, mentrodd dros y ffin i ennill i bywoliaeth, ac yn ei hachos hi, i ddinas

Lerpwl, a hynny ym 1956. Ysgol Joseph Williams oedd man ei swydd gyntaf – ysgol

o 700 o blant, lle roedd y diprwy cadarn, R. Ifor Griffith wrth law iddi. Credai Mair

Williams y dylasai pob plentyn gael dechreuad da i’w bywyd a phob chwarae teg, ac,

fel y person cydwybodol, dibynadwy ag oedd hi, a thrwy ddisgyblaeth, fe lwyddodd i

ysbrydoli cenhedlaeth o blant.

Cylchlythyr Eglwysi Bresbyteraidd Cymru,

Bethel, Heathfield Road / Auckland Road, L15 9EU a

Bethania, Crosby Road South, Waterloo L22 1R

MEDI - HYDREF 2019

O Ysgol Joseph Williams, symudodd i Ysgol Dovedale, Allerton, lle, unwaith eto,

roedd Cymry ymhlith y staff. Ac wrth sôn am ei chyd-Gymry, mae’n deg dweud y bu

Mair Williams yn hynod driw i’w gwreiddiau o’r dechrau, gan ymuno yn y llu o

weithgareddau oedd ar gael bryd hynny i Gymry alltud Lerpwl, yn cynnwys Clwb y

Cymry, lle y cyfarfu ag un o Gymry’r ddinas, sef David John Williams, Stoneycroft.

Priododd y ddau ym 1961 a blwyddyn yn ddiweddarach ymaelododd Mair yn

Heathfield Road gan gymryd mantais o’r arlwy oedd yno, boed yn ddefosiwn neu’n

ddiwylliant. Bendithiwyd yr aelwyd yn Gateacre â thair o ferched, ac estynnwn ein

cydymdeimlad dwysaf â hwy yn eu profedigaeth, sef Helen a’r efeillliaid Carol ac

Angela, heb anghofio David John, fu mor ofalus ohoni. Heddwch i’w llwch.

Ymddiheuriad

Rwy’n ymddiheuro mewn sachlïain a lludw na welsoch chi gopi mis Awst eleni. Fy

mai i, Robert, oedd hynny. Mewn anwybodaeth llwyr y gwneuthum y camwri, gan nad

oeddwn yn deall bod rhifyn Awst i’w gael. Byddaf yn gwybod erbyn y flwyddyn nesaf!

Gobeithio y caf faddeuant!

Gwyliau’r Cynorthwy-ydd Bugeiliol

Er eich gwybodaeth, byddaf i ffwrdd yn y garafan rhwng Awst 30ain a Medi’r 7fed,

ar ôl gweithio drwy fis Awst a cheisio cael trefn ar ein cartref newydd. Dyma’r

cyfeiriad:

Bryn Dedwydd, 2 County Road, Coed-llai, Sir y Fflint CH7 4RF.

Ffôn: (01352) 391310

Ffôn symudol mewn argyfwng: 07766 515639

E-bost: rob.parry@live.co.uk

Aelod Newydd

 Gŵyl Dathlu’r Angor yn cyrraedd ei huchafbwynt, cafodd y Dr Ben Rees y fraint,

yn ystod oedfa’r bore ar Orffennaf 21ain, o dderbyn y Parchedig Robert Parry yn aelod

atom i Fethel. Darllenwyd llythyr yng ngwydd y gynulleidfa oddi wrth Mrs Marian

Lloyd Jones, Ysgrifennydd Capel y Groes, Wrecsam, yn tystio i’w weithgarwch diflino

fel pregethwr grymus, bugail gofalus ac arweinydd cydwybodol. Rydym fel

eglwysi ar y Glannau yn estyn croeso twymgalon iddo, ac yn dymuno’r gorau iddo yn

ei swydd.

Gŵyl Dathlu’r Angor yn Ddeugain Oed

I ddathlu penblwydd Yr Angor yn ddeugain oed, cawsom benwythnos i’w gofio ar

Orffennaf 20fed-21ain ar ffurf darlithoedd cofiadwy a chyngerdd gwych gyda Chôr

Bara Brith o Sir Fôn; cinio godidog yng Nghlwb Golff Woolton a sgwrs hynod ddifyr

a chofiadwy gan Dr Huw Edwards, Llundain; oedfa wych ar y bore Sul wedi’i

threfnu’n effeithiol dros ben gan ein gweinidog, gan orffen ar y prynhawn Sul gyda

Chymanfa Ganu o dan arweiniad ein Cynorthwy-ydd Bugeiliol, y Parchedig Robert

Parry.

Cleifion

Fe’n brawychwyd ni i gyd o glywed am waeledd sydyn a difrifol Mrs Meinwen

Rees, a hynny yn dilyn codwm yn ei chartref yn Garth Drive. Gorfu iddi dreulio

wythnosau lawer yn yr Ysbyty Frenhinol, ond cafodd bob ymgeledd, ac mae hi’n

gwerthfawrogi’r llu cerdiau a gafodd yn dymuno adferiad buan iddi. Bellach, mae hi’n

derbyn gofal mewn canolfan arbennig yn Princes Park, ac yn ôl pob golwg yn gwneud

yn dda yno. Gobeithiwn yn wir y gall ddod adref ar fyrder. Mae ei lle yn rhyfeddol o

wag. Yr un mor ddisymwth oedd yr alwad gafodd Nerys Vaughan Jones, Aigburth

Vale, i’r Ysbyty Frenhinol, a derbyn yno lawdriniaeth fawr ar y galon cyn symud yn ei

blaen i Broad Green. Rydym yn falch o glywed ei bod yn gwneud yn dda, er ei bod yn

dal yn yr ysbyty. Llawenhawn o weld Mrs Lilian Coulthard yn ôl yn y pethe gyda ni,

a hithau wedi cael clun newydd dros yr haf.

Cydymdeimlo

Estynnwn ein cydymdeimlad cywiraf ag Eryl Dooling, Rainhill ar golli ei modryb

yng Nghymru. Meddyliwn amdani.

Apêl am Arian at y gyfrol ar Hanes Lerpwl

Fel y gwyddoch erbyn hyn, bydd cyfrol hardd a gwerthfawr yn cael ei lansio ar

Hanes Cymry Lerpwl ar Dachwedd 26ain am 7.30 yng Nghanolfan y Cymry, Auckland

Road/Heathfield Road, sef ffrwyth ymchwil ein gweinidog, Dr Ben Rees. Gwahoddir

chi i gyfrannu yn ôl eich gallu tuag at y fenter hon. Bydd y sawl sy’n cyfrannu £50 yn

cael derbyn copi clawr caled Cymraeg/Saesneg a bydd eu henwau’n cael eu rhestru

ymhlith y tanysgrifwyr yn y cyfrolau. Gwledd arall i’n disgwyl o ddwylo un sy’n ddistop

ei gyfraniad.

Priodas

Llongyfarchiadau gwresog (a gwresog mewn mwy nag un ystyr - roedd hi’n

ddiwrnod chwilboeth ar Orffennaf 5ed!) i Sara, merch Dr John a Mrs Beryl Williams

a John Fielding. Byddant yn ymgartrefu yn Woolton. Dymunwn bob hapusrwydd

iddynt i’r dyfodol.

Llwyddiant yr Ifainc

Llongyfarchiadau calonnog iawn i Lisa Hartley ar ennill gradd ym Mhrifysgol

Caerdydd ac i Olivia See ar sicrhau gradd dosbarth cyntaf yn yr un un brifysgol. Bydd

lluniau o’r ddwy yn rhifyn nesaf Yr Angor.

Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Cofier am ein Cymanfa Ganu ar Hydref 13eg. Bydd hon yn foddion ymarfer at

recordiad o Ddechrau Canu, Dechrau Canmol gydag S4C ar Nos Sadwrn, Hydref

26ain, 6.00-8.00. Dowch yn llu.

Calendr Tachwedd - Rhagfyr 2019

Y RHWYD

Tachwedd-Rhagfyr 2019

Cylchlythyr Eglwys Bresbyteraidd Cymru,

Bethel, Heathfield Road/Auckland Road, L15 9EU a

Bethania, Crosby Road South, Waterloo L22 1RJ

 

Annwyl Aelodau,

                                Yn Salm 90, fe gawn y geiriau hyn o eiddo’r Salmydd, “Treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl..” Dyma’r union eiriau a ddefnyddiodd Syr John Morris-Jones yntau yn ei englyn wrth adleisio’i brofiad o fywyd a’i ddirgelwch ac o sydynrwydd ei ddiflaniad:

“Ystyriwch fel ystori,

Eich hoedl a aeth – chwedl yw hi.”

 

Fel y Salmydd gynt, fe allwn ninnau hefyd ddweud, “Treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.” Fel y mae’r amser yn gwibio heibio! Pwy fyddai wedi meddwl ein bod yn prysur dynnu tua diwedd blwyddyn arall yn ein hanes? Bu hon yn flwyddyn gyffrous ar lawer ystyr, ac, os y ca’ i ddweud, un llawn cyffro i mi yn bersonol. Mae hi’n anodd gen i gredu fy mod wedi bod yma bellach am chwe mis, ond dyna’r gwir. Fe ddaw digon o gyfleon eto i adrodd am beth o’r gwaith yr ydw i’n cael y fraint o’i gylfawni yn eich plith, ond digon yw dweud fy mod yn cael blas anghyffredin arno fo, ac yn ei theimlo hi’n anrhydedd cael bod yma o gwbl. Mi rydw i’n diolch ichi unwaith eto am imi dderbyn y fath groeso a chefnogaeth yn yr alwad newydd hon, ac mi rydw i’n diolch yn ddyddiol i’r Un a’m galwodd yma am ymddiried y dasg arswydus fawr i’m gofal. Bendith arnoch chi wrth ichi ymbaratoi at Ŵyl y Geni unwaith yn rhagor.   

Recordio Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Hyfrydwch o’r mwyaf oedd cael gweld y tŷ yn llawn ym Methel ar Nos Sadwrn, Hydref 26ain a ninnau’n estyn croeso Cymry Lerpwl a’r cyffiniau ar ei orau i gyfeillion y camerâu recordio ar ran y Rhaglen boblogaidd Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Braint oedd derbyn o arweiniad Mr Geraint Roberts, Prestatyn a Chôr Ger y Ffin i roi hwb inni yn y canu mawl. ’Doedd dim rhaid i neb fod wedi poeni am lwyddiant y noson, oherwydd yr oedd y canu’n wefreiddiol. Rhaid diolch yn y fan hyn i’n horganyddes fedrus, Margaret Anwyl Williams ac i’n hyfforddwr, y cyfaill hoffus, R. Ifor Griffith am fynd ati a chynnal rihyrsals a thrwytho’n cantorion yn y tonau, a hynny yn ôl ei hynawsedd arferol. Roedd yn ddetholiad blasus o emynau a thonau ag iddyn nhw gysylltiad uniongyrchol a dinas Lerpwl, a phrofiad arbennig oedd cael canu’r dôn Liverpool gan Ieuan Gwyllt, oedd, gyda llaw, yn yr hen llyfr emynau gwreiddiol. Diolch i bawb sicrhaodd bod y noson yn llwyddiant, a neb yn fwy felly na Dr Ben Rees a frwydrodd yn galed i ddwyn y rhaglen i olau dydd. Edrychwn ymlaen yn eiddgar am gael gweld yr hanner cyntaf fis Chwefror, 2020. 

Coffâd: Athro Emeritus David Alan Price Evans (1927-2019)

Un o Gymry’r Glannau oedd y cymeriad diddorol a gwahanol hwn, ac er crwydro’r byd, yn ôl ar y Glannau y treuliodd ran helaethaf ei fywyd, gan farw yn yr union ysbyty y daliodd gysylltiad â hi dros hir amser. Fe’i ganwyd o ym Mhenbedw ond yn fuan iawn, symudodd ei dad i swydd Postfeistr Llythyrdy Llangefni ac yno y cafodd ei addysg elfennol. Roedd Môn yn golygu llawer iddo, ac yno, ym mynwent Eglwys Llangristiolus, y cafodd ei gladdu. A dyna inni ddatgelu rhan o unigrywiaeth David Price Evans, oherwydd Presbyteriad oedd o ar hyd ei oes, gyda’i daid a’i ewythr yn weinidogion gyda’r Hen Gorff. Pan oedd David yn barod i gael ei addysg uwchradd, fe symuodd ei dad i Sir y Fflint, a chafodd y mab, oedd yn hynod addawol, fynd i Ysgol Ramadeg Treffynnon lle y disgleiriodd. Fe’i derbyniwyd o i Brifysgol Lerpwl ym 1945, a byth oddi ar hynny, Lerpwl oedd pob peth ganddo. Ennillodd radd mewn gwyddoniaeth i ddechrau ac yna radd meddygaeth yn yr Adran Feddygaeth. ’Does dim dwywaith mai yfô oedd y mwyaf galluog o’i genhedlaeth. Cipiodd amyw byd o wobrau, yn cynnwys gwobr O. T. Williams.

Ymunodd gyda’r RAMC yn y Dwyrain Pell adeg y Gwasanaeth Milwrol, gan gofalu am y milwyr a anafwyd yn Rhyfel Corea a Rhyfel Malaysia. Rhyfedd meddwl iddo, flynyddoedd wedyn, dreulio pum mlynedd ar hugain yn ysbyty bwysicaf Riaydh yn Saudi Arabia. Dychwelodd i Lerpwl, cwblhau ei addysg a threulio blwyddyn ym Mhrifysgol enwog John Hopkins yn Baltimore. Wrth ennill gradd arall, fe agorwyd sawl drws iddo, a bu galw mawr arno mewn cynadleddau a phrifysgolion ledled byd. Derbyniodd swyddi meddygol yn ysbytai Lerpwl a chyfle i ddarlithio yn yr Adran Feddygol a derbyn Cadair bersonol. Daeth yn bennaeth yr adran, a bu yn hynod o hael tuag at yr adran honno. Roedd galw di-ddiwedd arno yn y chwe a’r saith degau i ddarlithio i gymdeithasau Cymraeg y Glannau, a hynny mewn Cymraeg gloyw, gyhyrog. Bu’n ffyddlon i’r achos yn Heathfield Road, ac roedd yn gwybod beth oedd pregeth dda.

Bu’n eithriadol o hael tuag at Brifysgol Lerpwl. Cafwyd cryn nifer o Gadeiriau Meddygol wedi eu sefydlu ganddo, yn cynnwys un yn ei enw. Ysgrifennodd yn helaeth yn ei faes arbenigol, a bydd ei enw yn parhau yn hanes meddygaeth dinas Lerpwl. Heddwch i’w llwch.  

Cyfeiriad a rhif ffôn ein Cynorthwy-ydd Bugeiliol, y Parchedig Robert Parry

Rhag ofn nad ydi rhai ohonoch chi ddim wedi cael y manylion, dyma nhw, er eich gwybodaeth:

Bryn Dedwydd, 2 County Road, Coed-llai, Sir y Fflint CH7 4RF. Ffôn: (01352) 391310

Ffôn symudol mewn argyfwng: 07766 515639

E-bost: rob.parry@live.co.uk

 

Cleifion

Dyna hyfryd oedd cael gweld Mrs Nerys Vaughan Jones yn bresennol yn yr oedfa arbennig honno, brynhawn Sul, Hydref 13eg, sef Mawl trwy Gân, a hithau wedi dod bellter ffordd o ran dod dros ei llawdriniaeth yn Broad Green. Mi roedd y wên ar ei hwyneb yn amlwg, a gallwn fentro bod y canu gwefreiddiol wedi codi ei hysbryd i’r entrychion, fel y gwnaeth, yn wir i bawb gafodd y farint o fod yn bresennol. Daliwch ati, Nerys, i gryfhau.  

Wedi wythnosau lawer o waeledd, mae’n dda iawn gennym glywed bod priod ein hawnnyl weinidog, Dr Ben Rees bellach yn ol adref. Mae hithau, fel Nerys, yn gwerthfawrogi’r holl alwadau a’r dymuniadau da. Brysied wella’n llwyr.   

Mae hi’n ddrwg gennym orfod cyhoeddi fod dau o’n dysgwyr wedi bod mewn gwaeledd yn ddiweddar, sef Mr Peter Williams sy’n gwneud y fath ymdrech i ddod bob Nos Lun o Newton-le-Willows a Mr Mike Farnworth sydd yn mesitroli’r Gymraeg yn dda. Mae Peter yn parhau i fod yn Ysbyty Whiston. Brysiwch wella, eich dau. 

Lawnsio cyfrol hardd a gwerthfawr ar Hanes Cymry Lerpwl ac apêl am arian

Mae cryn edrych ymlaen at orchestwaith diweddaraf Dr Ben Rees, sef Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl. Fe ddigwydd y lawnsio ar Nos Fawrth, Tachwedd 26ain am 7.30 yng Nghanolfan y Cymry, Auckland Road/Heathfield Road. Fel y dywedwyd yng nghopi Medi-Hydref o’r Rhwyd, gwahoddir chi i gyfrannu yn ôl eich gallu tuag at y fenter hon. Bydd y sawl sy’n cyfrannu £50 yn cael derbyn copi clawr caled Cymraeg/Saesneg a bydd eu henwau’n cael eu rhestru ymhlith y tanysgrifwyr yn y cyfrolau. Gwledd arall i’n disgwyl o ddwylo un sy’n ddi-stop ei gyfraniad, ac anrheg wych at y Nadolig!

Lawnsio arall

Nos Fercher, Rhagfyr 4ydd, fe ddaw cyfrol newydd o gerddi Norman Closs-Parry, Carmel, Treffynnon i olau dydd, sef Sawr Atgofus Oriau. Cynhelir y noson yn ngwesty’r Stamford Gate, Treffynnon, a’r arweinydd fydd Dr Goronwy Wynne, Licswm. Darperir lluniaeth ysgafn. Croeso cynnes i bawb.   

Calendr Tachwedd-Rhagfyr

TACHWEDD

Bore Sul, 3 Oedfa o dan arweiniad ein cyfaill hynaws, y Parchedig David Owens, Ponciau, Wrecsam am 10.30 o’r gloch. Bydd Bethania, Waterloo yn ymuno gyda ni gydol y mis, heblaw am y 24ain pan fydd Dr Ben Rees yn gwasanaethu yno.

Nos Lun, 4 Dosbarthiadau’r Iaith Gymraeg (7.30-9.00) a thrafodaeth o dan ofal y Parchedig Robert Parry ar “Lle distawrwydd oddi fewn i’n haddoliad.”

Nos Fawrth, 5 Noson Gymdeithasol Guto Ffowc o dan nawdd Cymdeithas Cymry Lerpwl.

Bore Sul, 10 A hithau’n Sul y Cadoediad, ein gweinidog, Dr Ben Rees fydd yn gweinyddu’r sacrament o Swper yr Arglwydd. “Gwnewch hyn er coffa amdanaf.”

Nos Lun, 11 Dosbarthiadau’r Iaith Gymraeg ac yn Ystafell y Gweinidog, Cyngor Eglwys Bethel o dan gadeiryddiaeth

Nos Fawrth, 12 Gethin a Glesni – Noson Gerddorol gyda Chymry Lerpwl

Bore Sul, 17 Tro gweinidog gyda’r Bedyddwyr, y Parchedig Olaf Davies, Bangor fydd hi i’n gwasanaethu am 10.30.

Nos Lun, 18 Noson yng nghwmni Dysgwyr yr Iaith am 7.30.

Nos Fawrth, 19 Cymdeithas Cymry Lerpwl: Noson gerddorol gyda’r Parchedig Robert Parry.

Bore Sul, 24 Y Cynorthwy-ydd Bugeiliol y Parchedig Robert Parry fydd ym mhulpud Bethel am 10.30, a’r Dr Ben Rees ym Methania am 2.30.

Nos Lun, 25 Dosbarthiadau’r Iaith Gymraeg (7.30-9.00) a Seiat o dan ofal y Parchedig Robert Parry ar emyn Ann Griffiths, “Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd..”

Nos Fawrth, 26 Lansio Cyfrol Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl ar y cyd gyda Chymdeithas Cymry Lerpwl a Changen Cymdeithas Lerpwl o Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru  

RHAGFYR

Sul 1 Oedfa Gymun gyda’r Dr Ben Rees

Nos Lun, 2 Dosbarthiadau’r Iaith Gymraeg (7.30-9.00) a Chyfarfod Gweddi’r Adfent am 7.30.

Nos Fawrth, 3 Cinio Nadolig yn Nghlwb Golff Woolton.

Sul 8 Disgwyliwn ein gweinidog, Dr Ben Rees i’n harwain wrth inni nesáu at y preseb.

Nos Lun, 9 Ar Drothwy’r Nadolig yng ngofal Mrs Nan Hughes Parry a Dosbarthiadau’r Gymraeg, 7.30-9.00.

Nos Fawrth, 10 Naws y Nadolig yng nghartref John a Kath Norton, 38 Layton Road, Woolton.   

Sul 15 Oedfa o dan ofal ein Bugail, Dr Ben Rees.

Sul 22 A’r Nadolig wrth y drws, tro ein cynorthwy-ydd Bugeiliol, y Parchedig Robert Parry, i’n harwain yn ein myfyrdod.

Mer 25 Dydd Nadolig 10.30 Oedfa o dan ofal y blaenoriaid

Sul 29 y Parchedig Ddr Goronwy Prys Owen, Y Bala fydd yn gwasanaethu. Boed bendith arno ac ar ei genadwri.