Cinio Gwyl Ddewi Unedig
Cymdeithas Lenyddol Capel Bethel,
Heathfield Road, Lerpwl gyda Cymdeithas Cymry Lerpwl
ar Nos Sadwrn, 26 Chwefror 2011 (26/2/2011)
yn
Ystafell,
Gwesty
Crown Plaza, Speke Road, Speke
am 7.30 o'r gloch
(bydd y drysau ar agor am 7.00 o'r gloch)

Gwr Gwadd:
Athro Mari Lloyd-Williams, Prifysgol Lerpwl
Pris y tocynnau: £26
(gellir cael y tocynnau oddi wrth swyddogion
y ddwy gymdeithas sy'n cydweithio er IIwyddiant
Cymry Lerpwl a'r Cyffiniau)
|
Ar Gof a Chadw
Côr Meibion Birkenhead
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Argyle Street, nos Wener 17 Chwefror
1933, penderfynwyd hysbysu y bydd y côr uchod, dan arweiniad Mr R
Jones, yn ail-ddechrau ar gyfer cyfres newydd o gyfarfodydd ac i
baratoi ar wahanol eisteddfodau y cylch, a thaer erfynnir am ei
aelodau newydd ymuno â’r côr a sicrhau llwyddiant y cyfarfodydd
a’r rhaglenni sydd mewn llaw. Bu galw mawr ar y côr uchod yn y
gorffennol i gynnal llu o gyfarfodydd tuag at gynorthwyo achosion
teilwng ar lannau Mersi a mannau eraill. Da gennym weld Côr Cymysg
Birkenhead (Mr D R Jones) yn parhau’n hynod o lwyddiannus ac yn
derbyn cymeradwyaeth uchel gan y prif feirniaid cerddorol. Yn awr,
dyma gyfle i’r aelodau i ymdaflu eu hunain i sicrhau llwyddiant y
côr hwn ac i feithrin a mabwysiadu’r un nodweddion, fel y bydd yn
olynydd gwir deilwng i gorau meibion enwog eraill, a gobeithio y
gwelir y ddau gôr yn cystadlu ar lwyfannau ein heisteddfodau, ac y
byddant yn dwyn clod ac anrhydedd mwy eto i Gymry’r dref. Bydd yn
falch gan yr ysgrifennydd, Mr J A Taylor, 167 Beckwith Street,
Birkenhead, gael enwau aelodau newydd, a bydd y rehearsals yn
Tramwaymen’s Union Rooms, y drws nesaf i’r Scala Theatre, Argyle
Street, am 8 bob nos Wener - W J Charles.
Cofio Dewi yn Waterloo
Nos Fercher, 1 Mawrth 1933 cynhaliwyd swper Cymreig i ddathlu gŵyl
ein Nawddsant. Mwynhawyd lluniaeth ac ymddiddan mewn awyrgylch wir
gartrefol, a dilynwyd gydag anerchiadau a chaneuon gwladgarol. Yr
ymwelydd wahoddedig oedd Mrs Frances Williams, BA, Wallasey, ac
estynnwyd croeso cynnes iddi hi ac i’n cymdogion, y Parch B a Mrs
Bee, Seaforth, gan y Parch D S Davies, MA. Seiniwyd nodyn uchel
iawn yn anerchiad Mrs Williams. Dywedodd mai amser briodol ydoedd
i ni gymryd trem yn ôl a threm ymlaen, yn wleidyddol, yn
addysgiadol, ac yn grefyddol. Gwnaed cyfeiriad arbennig at ein
hymdrechion cenedlaethol ynglŷn ag addysg ac at bethau y dylid eu
cymhwyso at wasanaeth amaethyddiaeth a diwydiant Cymru. Sylwodd
nad digwyddiad yn unig oedd y ffaith fod Dewi wedi ei ddewis yn
Nawddsant ein cenedl yn hytrach nag Arthur, dyweder, ond fod ei
ysbryd cydnaws, ei natur syml, a’i ymddygiad cenhadol yn apelio at
feddwl y Cymro. Nodwedd amlwg iawn ynom oedd rhoddi gwerth ar
bethau ysbrydol, a gofynnid inni wneuthur y cyfra hwnnw i’r byd
heddiw. Dilynwyd gydag anerchiad gan y Parch Oliver Thomas, BA,
gan ddywedyd nad iaith a wnâi genedl, ond traddodiad. Pwrpas Duw i
ddynoliaeth oedd cwrs hanes ar hyd y canrifoedd a’r genedl a
gyfrifai fwyaf oedd honno a wasanaethai fwyaf. Gwnaed sylwadau
pwrpasol gan y Parch Benjamin Bee, yn llawenhau am gael bod yn
bresennol ar bwys cysylltiadau teuluaidd. Cafwyd diddanwch mawr
gyda chanu Miss Nansi Thomas a Mr Griff Owen, a chawsant
werthfawrogiad teilwng o’u talentau amlwg. Cydgenid hefyd nifer o
alawon gwerin dan arweiniad Mr J E Jones, a Miss Annie Griffiths,
yn cyfeilio. Cyflwynwyd pleidlais o ddiolchgarwch yn wresog iawn
gan Mrs Goronwy O Roberts, a chefnogwyd gan Mr J W Roberts. Yr
oedd y beirdd mewn hwyl, hefyd, a dyma fel y canodd. ‘Peibio’ -
Y Wledd
Arlwy a’r byrddau’n orlawn – o fwydydd
I fodau cymodlawn;
Yn ein mysg ceir dysg a dawn,
A gwir odlau cariadlawn.
Gŵyl Ddewi
Dyma ŵyl annwyl enwog – ein Dewi –
Sant duwiol, trugarog:
A heno cawn ein hannog
I gadw’r llw gyda’r llog
DML
Dathlu Jiwbili
Yr Achos yn Vittoria Street, Birkenhead
Cynhaliwyd
cyfarfodydd dathlu Jiwbili Eglwys Vittoria St (A), Birkenhead,
Chwefror 11, 12, a 13, 1933. Pregethwyd nos Sadwrn a phrynhawn Sul
gan y Parch Richard Williams BA, y gweinidog. Cafwyd pregethau
grymus ac effeithiol dros ben. Dechreuwyd yr oedfa nos Sadwrn gan
y Parch W R G Jones, Liscard. Darllenwyd pennod a ledwyd yr emynau
nos Sul gan Mr Evan Evans. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn
Clifton Road trwy garedigrwydd yr eglwys nos Lun. Cyn y cyfarfod
yr oedd y chwiorydd wedi darparu’n helaeth, a chafod dros 130 eu
digoni. Cymerwyd y gadair am 7.30 gan y Parch R Williams BA.
Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddïo gan y Parch T Price Davies.
Wedi anerchiad gan y cadeirydd rhoddwyd cipdrem o hanes yr achos
gan yr ysgrifennydd, Mr E L Jones. Siaradwyd dros Clifton Road gan
Mr Evan Price, Martin’s Lane, y Parch J Oldfield Davies, BA; dros
Gyfundeb Lerpwl, Manceinion a’r Cylch gan yr Ysgrifennydd, y Parch
W A Lewis, yn lle’r cadeirydd, Mr W O Farrel, oedd yn analluog i
ddod; dros eglwysi’r dref a’r cylch, y Parch Evan Roberts, a thros
‘y byd’ chwedl y cadeirydd, gan Mr J H Jones. Diolchodd Mr Thos
Davies, trysorydd yr eglwys, i bawb am eu caredigrwydd. Diweddwyd
gan y Parch W T Lloyd Williams. Wele’r hanes: Dechreuwyd mewn
ymdrech genhadol, i gael y Cymry oedd ymhen gogleddol y dref i le
o addoliad, gan nad oedd achos Cymraeg, yn y rhan honno. Cymerwyd
ystafell yn Conway Street, congl Hope Street (Ionawr 4, 1883),
ymhen tri mis symudwyd oddi yno i Gospel Hall fach, oedd ar y tir
lle saif y capel arno heddiw. Yn fuan prynwyd y tir, ac adeiladwyd
y capel, a chafwyd cyfarfodydd agoriadol ym mis Tachwedd o’r un
flwyddyn (1883). Cynyddu a fu hanes yr Achos nes bu rhaid
helaethu’r capel yn 1886. Costiodd y cwbl 460p. Rhifai’r aelodau
108 erbyn hynny. Ffurfiwyd hi’n Eglwys Annibynnol, Chwefror 1,
1883. Neilltuwyd Mr Thos Williams i weinyddu ordinhadau, ac i
ofalu am yr eglwys. Bu arweinydd doeth a ffyddlon am yn agos i
ugain mlynedd. Swyddogion cyntaf yr eglwys oedd y Mri Thos
Williams, John Jones, Robt Thomas, Hugh Hughes (trysorydd) a Thos
Knowles (ysgrifennydd). Yn y cyfnod hwnnw bu’r eglwys yn gymorth
mawr i helpu i godi achos yn Seacombe gydag ychydig gyfeillion
oedd yno. Daeth yr achos bach hwnnw yn eglwys urddasol yn Marti’n
Lane erbyn heddiw. Cafodd yr eglwys yn Vittoria Street ei breintio
â chwiorydd rhagorol dan arweiniad doeth a medrus Mrs T Knowles.
Bu hi farw yn Awst 1889, a bu hynny’n golled fawr i’r eglwys. Yna
Mrs Evans, Arthur Street; Mrs John Jones a Mrs Thos Williams.
Cafodd y tair oes hir - yn agos i 90 mlynedd; Mrs Parry, Mrs John
Williams, Mrs Jones, Vittoria Street a Mrs Thomas, Market St. Y
mae dwy ohonynt yn aros hyd heddiw, sef Mrs T Jones (Miss Venmore
gynt), Llannerchymedd, a Mrs R Jones, Montreal, chwaer cyn-Olygydd
Y Brython. Dal i gynyddu fu’r hanes hyn 1893, pan gyrhaeddodd y
rhif 132. Yn 1903, penderfynwyd cael gweinidog. Anfonwyd at Mr G J
Williams, Llanddeusaint, a derbyniodd ef y gwahoddiad. Ordeiniwyd
ef y dydd Llun cyntaf ym Medi 1903. Dechreuodd Mr Williams weithio
o ddifrif, ac yn 1904 fe dalwyd y rhan olaf o’r ddyled oedd yn
aros er dechrau’r achos, sef 60p. Yn 1909, atgyweiriwyd y capel,
cafwyd seddau yn lle meinciau, etc, a chostiodd hynny dros 450p.
Talwyd 150p o’r arian y flwyddyn honno, ac erbyn hyn, trwy
garedigrwydd hen aelodau a chyfeillion eraill, llwyddwyd dileu’r
ddyled yn llwyr. Ymadawodd y Parch G J Williams ar ddiwedd 1922,
wedi bod gyda ni yn fawr ei barch am dros 19 mlynedd i gymryd
gofal Widnes, Thatto Heath a Golborne; yna i Wheeler Street,
Birmingham. Bu farw ym 1932 er gofid i lawer ohonom. Ar hyn o bryd
yr ydym fel eglwys yn ffodus iawn o dan arweiniad medrus y Parch
Richard Williams, BA - E L Jones.
John Roberts, Penbedw (1855-1933)
Bu farw y brawd John Roberts, Gorsefield Road, Birkenhead, bore
dydd Sadwrn, 18 Chwefror 1933, ef ar fin cyrraedd ei 78 mlwydd oed.
Brodor o Landderfel, ger Bala ydoedd. Symudodd oddi yno i Benbedw
pan tua 17 mlwydd oed, ac yn y dref hon y treuliodd y gweddill o’i
oes. Bu’n bur i’r hyfforddiant a dderbyniodd fore’i oes. Ymunodd
ag eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg Parkfield yn ei dref
fabwysiedig, a daliodd ei aelodaeth ynddi yn ddifwlch hyd ddiwedd
oes. Ychydig amser yn ôl mewn casgliad arbennig, cymhellwyd pob
aelod i roi cyfran am bob blwyddyn o’i aelodaeth ac ar bapur yn
cynnwys cyfraniad cafwyd “y trigain mlynedd hyn”. Gwyddid mai
Roberts oedd hwnnw. Bu’n ffyddlon a gwasanaethgar ymhob cylch, a
bu’n flaenor am dros 34 mlynedd, ac yn drysorydd hefyd am gyfnod
maith. Bu’n cadw busnes groser yn Watson Street tan rhyw bum
mlynedd yn ôl, pan ymneilltuodd, ac aeth i fyw i Gorsefield Road.
Gŵr cymeradwy ymhob cylch ydoedd, a gwên siriol ganddo bob amser,
a chynnes fyddai ei gyfarchiad. Bydd dirfawr chwithdod ar ei ôl.
Dydd Mercher, 22 Chwefror 1933 yn Flaybrick Hill, bu’r angladd, a
chynhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys Parkfield, gan arweiniad Dr
Moelwyn Hughes. Cymerwyd rhan hefyd gan y Parchgn C Lloyd Williams
BA, D S Evans BA a David Jones ac yn y fynwent gan y Parchgn Isaac
Parry a J Ellis Jones. Cludwyd yr arch gan dri o’i gyd-swyddogion:
Mri Wyn Edwards, Rees Jones, Thomas Jones, Simon Owen a D Roger
Rowlands YH.
Wele’r prif alarwyr – Mr Gwilym Roberts (mab); Miss Gwladys
Roberts, Mrs J Mahen a Mrs T H Huxley (merched); Mrs Margaret
Jones (chwaer).
J H Jones a D Ben Rees
Gŵyl Ddewi Capel Tabernacl (A),
Belmont Road, Lerpwl ym 1933
Cyngerdd Cymraeg a gafwyd yma i ddathlu coffa’r Sant, a hynny ar y
noson o flaen yr ŵyl. Y Parch D Eurof Walters oedd yn y gadair, a
llond yr ysgoldy o bobl wedi dyfod yno i’w mwynhau eu hunain mewn
dull Cymreig, cartrefol. Crogai’r Ddraig Goch uwch ben y llwyfan,
a mynnodd y plant gael Baner yr Urdd i addurno cefn y llwyfan, a
dyna ni mewn awyrgylch Gymreig ar unwaith. Bu yno ganu brwd difrif
a digrif, ac adrodd darnau gwlatgar, yn ddifwlch, am dros ddwy awr,
heb gymorth gair o’r iaith fain. Canodd Côr Meibion y Tabernacl o
dan arweiniad Mr W D Owen, yn rhagorol, y darn adnabyddus, “Milwyr
y Groes” (Protheroe), a chanodd Cantorion Gwalia y pethau
rhyfeddaf a glywyd oddi ar lwyfan gyda’r fath eneiniad a chyfaredd
nes “tynnu’r lle i lawr”, fel y dywaid gohebwyr y papurau bob dydd.
Cafwyd unawdau amryw, deuawdau a phedwarawd gan unawdyddion gwych,
a chanu penillion tan gamp. Nid oedd eitem wael yn yr holl raglen,
a rhwng yr encoriio byddarol dyblwyd hyd y rhaglen oedd eisoes yn
faith. Yma ac acw cafwyd sylwadau byw a ffraeth gan y cadeirydd, a
dugwyd y dathliad i ben trwy gydganu “Hen Wlad fy Nhadau”.
Grace Davies, Orrell Park, Lerpwl
(1853-1933)
Bu farw Mrs Gwen Davies ar ddydd Sadwrn 6 Chwefror 1933 yn 81 oed.
Hi oedd y chwaer a fu’n dal y cysylltiad hwyaf ag Eglwys y MC,
Stanley Road, sef 71 mlynedd, ac ni roddodd neb fwy o’i hamser i
wasanaethu’r eglwys nag a wnaeth hi. Symudodd ei thad a’i mam, Mr
a Mrs Samuel Jones, i fyw i Bootle, yn 1862, o’r Parc, pan oedd y
fasnach goed yn symud yno. Cadwai ei thad fasnach fel lathlever (holltwr
dellt). Deuai’r coed o Norway. Llifai hwy i hydoedd neilltuol a’u
hollti ar feinciau â chyllell debyg i wn hir, i wneud dellt i’w
hoelio ar ddistiau llofftydd, a glynai’r plaster yn llawer gwell
ynddynt nag yn y rhai a ddaw o’r America wedi eu llifo. Ond
gadawodd Gladstone i’r rhai hynny ddod yn ddidoll, a lladdodd y
fasnach. Mae’n debyg nad oes neb yn meddwl am ddysgu’r grefft
erbyn hyn. Ni bu gan Mr Samuel Jones byth air da i Gladstone ar ôl
hynny.
Yr oedd Mrs Grace Davies yn un o blant y “Rwm Bach”. Yn Chwefror
1864 yr agorwyd y capel cyntaf yn Bootle - Capel Millers Bridge.
Dechreuodd Mrs Davies weithio gyda’r eglwys yn fore yn ei hoes fel
y dywedir yng “Nghamau’r Cysegr”, hanes Eglwyd Stanley Road: “Mrs
Davies yw Mam yr Eglwys.” Bu’n cerdded yn ôl a blaen i werthu
tocynnau’r te parti enwog a gynhelid y pryd hynny er lleihau dyled
y capel cyn i’r un bws ddechrau rhedeg; a pharhaodd i weithio hyd
at erchwyn y bedd. Hi oedd llywydd Pwyllgor Dirwest y Chwiorydd ac
is-lywydd Pwyllgor y Dorcas am y flwyddyn ddiwethaf. Meddai
argyhoeddiadau dyfnion iawn. Anodd iawn oedd ei symud o’i llwybr.
Gweithiodd yn gryf gyda’r Ysgol Sul; bu’n athrawes am oes - rhan
yn Stanley Road a rhan yn St John’s Road a Bankhall. Meddai
argyhoeddiadau cryfion ar ddirwest ac ar waith cenhadol cartref.
Bu’n foddion i godi aml i un i’r gorlan. Aeth ar ôl y syrthiedig
nid er mwyn yr hyn a allai gael ganddynt, ond er mwyn yr hyn a
allai roi iddynt. Gweithiodd yn egniol o blaid y Genhadaeth Dramor.
Ni welsom neb mor ffyddlon i gyfarfodydd yr eglwys - cyfarfodydd y
Sul a chyfarfodydd yr wythnos. Hyd o fewn mis yn ôl, gellid
dibynnu ar ei phresenoldeb hi yn y cyfarfod gweddi a’r seiat, er
yn byw yn Orrel Park - lle digon anghyfleus i ddod ohono i gapel
Stanley Road. Buom yn ceisio meddwl beth a gyfrifai am hynny.
Anaml iawn y dywedai air yn y seiat a phan wnâi, prin fyddai ei
geiriau. Yr unig ffordd y gallaf gyfrif am y fath aberth o edrych
ar ei ffyddlondeb o un cyfeiriad yw fod ei hysbryd yn dod i ryw
gyfathrach gyfriniol yn y cysegr â’r Gŵr a garai mor fawr , ac na
ŵyr ond ychydig ohonom fawr amdano. Byr, mewn cymhariaeth, f u ei
bywyd priodasol. Yn 1908, ymbriododd â Mr John Davies, gŵr gweddw
ond bu yntau farw yn 1920. Er mai byr a fu, bu’n un hapus iawn tra
y parhaodd. Bu i Mrs Davies un brawd a thair chwaer. Erys dwy
chwaer - Mrs Williams (Orrell Park), sy’n 85 oed, ac oedd yn
bresennol yn y gladdedigaeth, a Mrs Rowland Roberts (The Rookery,
Waterloo Park), a chydymdeimlwn â hwy, a hefyd â’i nyth, Mrs
Cartnell, 4 Thornfield Road, Orrell Park, na bu ond am ychydig
oddi wrth ei modryb ar hyd ei hoes, ac â’r gweddill o’r teulu.
Claddwyd ei gweddillion dydd Mawrth, 9 Chwefror 1933 ym mynwent
Anfield. Gwasanaethwyd gan y Parchgn D Stephen Davies, MA a W
Wilson Roberts, a daeth nifer fawr yno i ffarwelio â hi. Yr oedd
yno nifer fawr o blethdorchau yn mynegi serch ei chyfeillion a’i
pherthnasau tuag ati.
Meirion Evans
Cymanfa Undeb Gobeithluoedd MC Lerpwl
a’r Cylch (1935)
Cynhaliwyd yr uchod yng Nghapel y MC, Chatham Street, prynhawn
Sadwrn diwethaf, 4 Mawrth 1933. Trefnwyd te i’r plant eleni, a
daeth dros ddau gant ohonynt ynghyd. Anturiaeth newydd oedd hon i
geisio ennyn mwy o sêl, gan fod mwy o angen y Gobeithluoedd nag
erioed, os yw dirwest a phurdeb i ddal eu tir. Gresyn na buasai
pob eglwys yn y cylch yn cael ei chynrychioli yno. Dechreuodd y
cyfarfod cyhoeddus am 5.30 o’r gloch, ac yr oedd yno gynulliad
rhagorol. Llywyddwyd gan y Parch D S Davies, MA, Waterloo, ac ni
ellid ei well i drin y plant a rhoddi gair o werthfawrogiad yn ei
bryd. Yn ei anerchiad cryno a gwresog, cyfeiriodd at aelodau’r
Gobeithluoedd fel lamp-lighters, ac anogodd hwy i weithio beunydd
i ddwy eraill i gysylltiad â’r golau oedd yn llusern y Gobeithlu.
Mr Herbert Pierce, Bootle, oedd yn arwain y canu, a chafodd
arddeliad, a deallodd y plant ac yntau ei gilydd o’r cychwyn
cyntaf. Cynorthwyid ef wrth y piano gan Miss Hughes, Anfield Road.
Aed trwy’r rhaglen a ganlyn: Cân gan y plant, ‘Galwad i’r Frwydr’.
Cydadroddiad o Actau iii 1-11, Gobeithlu Edge Lane. Wedi canu
eilwaith arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch H C Lewis,
Fitzclarence Street. Adroddiad, ‘Disgwyl Coron’, Gwerful Morus,
Douglas Road. Deuawd, ‘Y Lili’, Barbara Edwards a Margaret Davies,
Waterloo. Adroddiad, ‘Ewyllys Sion Ifan’, Mair Thomas, Walton
Park. Cân gan y Plant, ‘Cariad Iesu’. Cyd-adroddiad, ‘Cymdeithas
Heddwch’, Plant Orrell. Cân ‘Duw ŵyr’, Beti Simcox, Anfield Road.
Adroddiad, ‘Y Gwron’ (Pregethau Brynsiencyn), Wynn Morgan, Edge
Lane. Cân, ‘Dring i Fyny’, Beti Simcox a’r gynulleidfa. Anerchiad
y llywydd a gair byr gan yr ysgrifennydd (Mr Ifor Williams, Edge
Lane). Chwarae, ‘Y Sipsiwn’, Plant Edge Lane. Cyd-adrodd Salm 84,
Plant Woodchurch Road. Cân ‘Ffarwel i Blwy Llangower’, Glyn Rees
Jones, Parkfield. Adroddiadau, ‘Ora Pro Nobis’, a Salm 34 gan Ann
Williams ac Irfonwy Roberts, Newsham Park. Deuawd, Hadley, Stan a
Ted Davies, Fitzclarence Street. Adroddiadau, ‘Y Beibl ar y Fyny’
a ‘Dim newid yn ôl’, gan Dilys Owen a Mair Huws, Anfield Road.
Adroddiadau, ‘Y Fair’ a ‘Merch y Meddwyn’, Glyn Thomas Stanley
Road, ac Olwen Thomas, Heathfield Road. Cân gan y plant,
‘Kenneth’. Adroddiadau, ‘Ein Gwlad’ a ‘Dewi Sant’, gan H M Thomas,
Rake Lane, a Betty Owen, Belvidere Road. Diolchwyd yn ddeheig gan
Mr R M Thomas, Walton Park, a chyfeiriodd at waith y chwiorydd yn
paratoi y te o dan arweiniad Mrs C Lloyd Williams, Anfield a Miss
Elias, Douglas Road. Ategwyd gan Mr Henry Davies, llywyd Pwyllgor
yr Undeb. Wedi cyfarfod diddorol a dyrchafol iawn, terfynwyd trwy
ganu ‘Telynau Aur y Nef’, ac ymwahanwyd yn brydlon.
|
|
Llongyfarch Hefin Rees ar ei
ddyrchafiad
Estynnwn
longyfarchiadau cywir i Hefin E Rees, Harpenden ar ei ddewis i
gyflawni gwaith Barnwr yng Nghylchdaith Gorllewin Canolbarth Lloegr
(sef Birmingham a’r cyffiniau) a bydd yn dechrau ar ei waith haf
eleni.
Ganwyd Hefin E
Rees yn Lerpwl, mab i Mrs Meinwen Rees a’r Parchedig Ddr D Ben Rees,
a chafodd ei addysg yn Ysgol y Brenin Dafydd (Ysgol Iddewig) cyn
mynd ymlaen i Brifysgol Durham a’r Inner Temple yn Llundain. Bu’n
llwyddiannus iawn fel bargyfreithiwr a galw mawr o hyd am ei
wasanaeth. Daw ei briod Dr Bethan Wyn Rees hefyd o Lerpwl, merch
ieuengaf Louis a H Wyn Jones, Allerton, a chafodd y ddau eu magu yn
y gymuned Cymraeg a leolir yng nghapel Bethel, Heathfield Road,
Lerpwl. Yno y bedyddiwyd y ddau, a’i derbyn yn gyflawn aelodau, a
phriodi, ac yn y capel hwnnw y bedyddiwyd eu plant Tomos a Joshua.
Y mae’r teulu’n weithgar iawn yn nhref Harpenden ger St Albans.
Sefydlodd Hefin gyda’i dad elusen (ar ôl treulio cyfnod yn Cenia)
o’r enw Gobaith mewn Gweithrediad, ac yn awr mae’n cefnogi elusen
arall hefyd, sef Harpenden a’r Affrig, yn codi arian i sefydlu
ysgolion a chanolfannau iechyd yng ngwlad fawr Uganda. Bu’r ddau
allan Chwefror eleni yn braenaru’r tir, a phenderfynodd y ddwy
elusen wneud ymdrech i godi arian at yr angen mawr. Y mae’r teulu yn
weithgar iawn yn Eglwys Crist, Harpenden lle ceir cynulleidfa o 350
i 400 ar fore Sul, a chymer Hefin E Rees ddosbarth nos bob nos Fawr
yn ei gartref ar gyfer aelodau’r capel sydd o fewn y filltir sgwâr.
|
|
|
|
References
|
(1) - Cymry Lerpwl (Cyfrol 1 a 2) D.Ben Rees
Cyhoeddiadau Modern Cymraeg. Archebwch eich llyfrau. ISBN
0-901332-56-9 A ISBN 0-901332-55-0
The Welsh of Merseyside (Volumes 1 + 2) D.Ben Rees Modern Welsh
Publications
(2)
-
Cyfarfodydd yn y Gymdeithas Gymraeg yn cyfarfod yn Neuadd
y Crynwyr (Friend's Meeting House), School Lane am 7-30 ar Nos Fawrth
Cyfarfodydd
yng Nghapel Seion Laird Street Penbedw ar Nos Lun gynta’r mis
(3) - Oedfa /Worship
service am 11.15 yn Bethania, Crosby Road South
(yn cyfarfod yn Eglwys Christ Church ar draws y ffordd) ffôn:
01515468748
Oedfaon/Worship services
am 10.30 a 5 o’r gloch yn Bethel Heathfield Road
ffôn:
(4) - Oedfaon / Worship
Services 10.30 , neu 2.30
(5) - Oedfa / Worship
Service 1st Sunday of every month /Sul Cyntaf o’r mis am
2.30 o’r gloch Westminster
Road Welsh Chapel.
(6) - e-bost:
caereini@tesco.net
(7) - Ffôn:
01512807808 - ysbytai Broadgreen, Royal Liverpool, Alder Hey, ac
eraill
(8) - Y
Golygydd ydyw: Dr D. Ben Rees, e-bost:
(9) - Ffonier
0151 475 226 neu gair i 2 Heathfield Road, L15 9EZ
(10) - Gofynner am Mrs
Rhiannon Liddell, Capel Bethel, 2 Heathfield Road, L15 9EZ
|
|