Un o’r dogfennau pwysig sydd ar gof a chadw gennyf yw’r un a
baratowyd gan arweinwyr dinas Lerpwl a’r bywyd Cymraeg i’w
gyflwyno i aelodau’r Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod
Genedlaethol yn dadlau gydag argyhoeddiad am leoli Eisteddfod
Genedlaethol 1912 yn Lerpwl. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus yn
Neuadd y Ddinas ar 16 Rhagfyr 1909 o dan gadeiryddiaeth Arglwydd
Faer y Ddinas, yr Henadur W H Williams Cymro Cymraeg ac aelod
o’r Hen Gorff. Daeth tyrfa gref ynghyd yn arbennig y Gymdeithas
ddylanwadol honno, Cymdeithas Genedlaethol Cymry Lerpwl a
sefydlwyd fel canlyniad i ddyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i
Lerpwl yn 1884.
Roedd gan
y symudiad o blaid yr Eisteddfod i Lerpwl yn 1910 bump o
ddadleuon i’w osod gerbron awdurdodau’r orsedd a’r Eisteddfod o
blaid dyfodiad yr Ŵyl i lannau’r Mersi. Y ddadl gyntaf oedd dadl
y boblogaeth Gymraeg. Roedd mwy o Gymry Cymraeg yn byw yn ninas
Lerpwl nac unrhyw ddinas yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifid ym
memorandwm y cais fod 150,000 o Gymry Cymraeg yn Lerpwl a’r
cyffiniau. Golygai'r cyffiniau ddinasoedd ar y glannau fel
Penbedw, Rock Ferry a Wallasey a dinasoedd eraill ar y cyffiniau
fel Widness, Warrington a Wigan lle'r oedd cymunedau Cymraeg a
chapeli Cymraeg. Rhaid cofio trefi bychain Sir Gaerhirfryn lle y
ceid llu o Gymry diwylliedig, fel Southport, Preston, Prescot a
Ashton-in-Makerfield. Yno roedd J R Morris (Caernarfon) yn
ddiweddarach yn cadw siop bapurau a llyfrau Cymraeg ar gyfer y
gymuned lengar, a theulu'r Macdonalds a wnaeth gymaint dros
wleidyddiaeth y Cymry. Dadleuid hefyd fod cysylltiad agos a
chysylltiad gwerthfawr rhwng Lerpwl a gogledd Cymru, yn arbennig
Sir Gaernarfon a Sir Ffôn.
Yn ail
roedd y traddodiad eisteddfodol yn ffynnu ar hyd a lled y
dalgylch. Ceid eisteddfodau mawr a bach ym mhob rhan o Lerpwl
a’r cyffiniau, a phobl oedd yn gyfarwydd iawn gyda gweinyddiaeth
yr Eisteddfod. Y ddau ysgrifennydd ar Bwyllgor y Cais oedd R
Vaughan Jones, Bootle a Llew Wynne, chwaer y gantores enwog
Edith Wynne, ac un a fu’n Ysgrifennydd i’r Eisteddfod
Genedlaethol pan gynhelid hwy yn y ddinas yn 1884 a 1900. Bu’r
ddwy Eisteddfod honno’n gryn lwyddiant yn nhermau'r cyfnod hwnnw.
Yn wir ar sail y cydweithio a welwyd yn 1884 a 1900, gellid yn
hawdd disgwyl hi’n ôl yn 1912 i Lerpwl.
Yn drydydd
yr agwedd ariannol. Poenid trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol
yn y blynyddoedd hynny gan yr angen i godi arian sylweddol a
gallai’r Pwyllgor Apêl Lerpwl ymffrostio eu bod eisoes wedi
cychwyn cronfa ac wedi derbyn addewidion o dros fil o bunnoedd (swm
mawr yr adeg honno) tuag at Cronfa Eisteddfod 1912. A phan mae’r
hanesydd yn edrych ar restr y cefnogwyr fe sylweddola fod pobl
gefnog y tu ôl i’r cais, yn feddygon fel Dr Richard Humphreys,
Cressington; Dr Henry Jones, Upper Warwick Street, marsiandwyr
fel Job Jones (Bootle yn ddiweddarach), arweinwyr Prifysgol
Lerpwl, fel yr Is-Ganghellor Dr A W Dale, mab yr enwog bregethwr
o Birmingham. Roedd swyddogion y gwahanol gymdeithasau y tu ôl
i’r cais fel Cymdeithas Cymraeg Cilgwri, Undeb Gorawl y Cymry,
Cymdeithas Cymry Fydd Bootle, Cymdeithas Cymry Fydd Anfield a
Chymdeithas Cymrodorion Prifysgol Lerpwl. Ysgrifennydd y
Gymdeithas honno oedd neb llai na J Glyn Davies, bardd,
ysgolhaig a gŵr o farn bendant. Roedd y teulu o Lannerchymedd a
fu’n werthwyr tai llwyddiannus, y Venmores, Arthur a Williams
Venmore, Anfield yn gefnogol iawn a’r mwyafrif o arweinwyr y
cymunedau Cymraeg. Llofnododd y gweinidogion Cymraeg yr Apêl,
fel y beirdd a’r bugeiliaid, Pedr Hir, Pedrog, Hawen, y
Parchedigion David Jones, Edge Lane; Griffith Ellis, Bootle; J D
Evans, Garston; James D Evans, Catherine Street; Edmynd Griffith
(a deithiau o Lerpwl i ofalu ar ôl un o gapeli Cymraeg
Ashton-in-Makerfield); Griffith Hughes, West Kirby; R Aethwy
Jones, Newsham; Richard Humphreys, Chatham Street; W A Lewis o
Eglwys Rydd y Cymry; David Powell, y Bedyddiwr gweithgar; R W
Roberts, Scaforth. Ond y mae llu o’r gweinidogion amlwg heb
roddi eu cefnogaeth, a’r mwyaf nodedig erbyn hyn na
thrafferthodd o gwbl oedd y Parchedig Lodwig Lewis, Wallasey a
thad y myfyriwr ifanc J Saunders Lewis. Hoffwn wybod heddiw pam
fod y Parchedig Lodwig Lewis heb roddi cefnogaeth i’r cais na
chwaith y parchedig William Owen, Webster Road a’i fab dawnus
ynta, Dr Gwilym Owen (Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach) a
ddaeth yn arloesydd ysgrifennu am wyddoniaeth trwy gyfrwng y
Gymraeg. Mae’n amhosibl erbyn hyn wybod. Ond mae’n syndod,
gymaint o syndod mewn can mlynedd fydd sylwi i’r gwleidydd
Rhodri Morgan gael ei anwybyddi rhag bod yn Llywydd Anrhydeddus
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ag yntau’n Weinidog ar y
Cynulliad yn y ddinas lle cynhelid yr Ŵyl, ac yn Aelod Seneddol
dros y fangre lle cynhelir yr Ŵyl.
Y
bedwaredd ddadl oedd cyfleusterau Lerpwl o ran ‘neuaddau
helaethion’ ar gyfer y cyfarfodydd a’r hyn a elwid yn
‘cynadleddau’r Eisteddfod’. Byddai hyn yn ôl y Pwyllgor Cais yn
arbed codi ‘llys a phabell arbennig gogyfer â’r Ŵyl’ fel y
byddai’n ofynnol mewn aml i ardal. Ar ben hyn oll bwriedid
rhoddi o leiaf hanner yr elw a ddeilliai o’r Ŵyl ‘drosodd i’ch
Trysorfa ac i’ch Cymdeithas chwi.’ Bargen dda ar bob ystyr. Ac
yn bumed roedd lleoliad Lerpwl yn fanteisiol i deithio iddi o
bob rhan o Deyrnas Unedig. Dyma’r gân a seiniwyd:
Nad oes
unman hafalid ein Dinas o ran nifer a hwylustod y cyfleusterau
teithio o ac iddi , sef gyda’r ffyrdd haearn ac amryfal foddion
eraill; y mae felly o bobman, eithr o Gymru’n arbennig; nid oes
ddinas, ychwaith, amgenach ei lletyau clud, cysurus, a rhadlon
ei hur a’i harlwy, gogyfer a’r miloedd dyfodiad i’r Ŵyl.
Ac er bod
bron pawb o arweinwyr gwleidyddol y ddinas a trwch helaeth o
arweinwyr diwylliant y Cymry wedi arwyddo'r memorandwm
dwyieithog hwn fe wrthodwyd y cais cryf hwn, a phenderfynu
lleoli Eisteddfod Genedlaethol 1912 yn Wrecsam. Nid oedd
cymhariaeth, ond peth felly yw cystadleuaeth, mae’n hawdd cael
cam ym myd pob Eisteddfod!
Back to contents list