|
Un o’r dogfennau pwysig sydd ar gof a chadw
gennyf yw’r un a baratowyd gan arweinwyr dinas Lerpwl a’r bywyd
Cymraeg i’w gyflwyno i aelodau’r Orsedd a Chymdeithas yr
Eisteddfod Genedlaethol yn dadlau gydag argyhoeddiad am leoli
Eisteddfod Genedlaethol 1912 yn Lerpwl. Cynhaliwyd Cyfarfod
Cyhoeddus yn Neuadd y Ddinas ar 16 Rhagfyr 1909 o dan
gadeiryddiaeth Arglwydd Faer y Ddinas, yr Henadur W H Williams
Cymro Cymraeg ac aelod o’r Hen Gorff. Daeth tyrfa gref ynghyd
yn arbennig y Gymdeithas ddylanwadol honno, Cymdeithas
Genedlaethol Cymry Lerpwl a sefydlwyd fel canlyniad i ddyfodiad
yr Eisteddfod Genedlaethol i Lerpwl yn 1884.
Roedd gan y symudiad o blaid yr
Eisteddfod i Lerpwl yn 1910 bump o ddadleuon i’w osod gerbron
awdurdodau’r orsedd a’r Eisteddfod o blaid dyfodiad yr Ŵyl i
lannau’r Mersi. Y ddadl gyntaf oedd dadl y boblogaeth Gymraeg.
Roedd mwy o Gymry Cymraeg yn byw yn ninas Lerpwl nac unrhyw
ddinas yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifid ym memorandwm y cais
fod 150,000 o Gymry Cymraeg yn Lerpwl a’r cyffiniau. Golygai'r
cyffiniau ddinasoedd ar y glannau fel Penbedw, Rock Ferry a
Wallasey a dinasoedd eraill ar y cyffiniau fel Widness,
Warrington a Wigan lle'r oedd cymunedau Cymraeg a chapeli
Cymraeg. Rhaid cofio trefi bychain Sir Gaerhirfryn lle y ceid
llu o Gymry diwylliedig, fel Southport, Preston, Prescot a
Ashton-in-Makerfield. Yno roedd J R Morris (Caernarfon) yn
ddiweddarach yn cadw siop bapurau a llyfrau Cymraeg ar gyfer y
gymuned lengar, a theulu'r Macdonalds a wnaeth gymaint dros
wleidyddiaeth y Cymry. Dadleuid hefyd fod cysylltiad agos a
chysylltiad gwerthfawr rhwng Lerpwl a gogledd Cymru, yn arbennig
Sir Gaernarfon a Sir Ffôn.
Yn ail roedd y traddodiad
eisteddfodol yn ffynnu ar hyd a lled y dalgylch. Ceid
eisteddfodau mawr a bach ym mhob rhan o Lerpwl a’r cyffiniau, a
phobl oedd yn gyfarwydd iawn gyda gweinyddiaeth yr Eisteddfod.
Y ddau ysgrifennydd ar Bwyllgor y Cais oedd R Vaughan Jones,
Bootle a Llew Wynne, chwaer y gantores enwog Edith Wynne, ac un
a fu’n Ysgrifennydd i’r Eisteddfod Genedlaethol pan gynhelid hwy
yn y ddinas yn 1884 a 1900. Bu’r ddwy Eisteddfod honno’n gryn
lwyddiant yn nhermau'r cyfnod hwnnw. Yn wir ar sail y
cydweithio a welwyd yn 1884 a 1900, gellid yn hawdd disgwyl hi’n
ôl yn 1912 i Lerpwl.
Yn drydydd yr agwedd ariannol.
Poenid trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn y blynyddoedd
hynny gan yr angen i godi arian sylweddol a gallai’r Pwyllgor
Apêl Lerpwl ymffrostio eu bod eisoes wedi cychwyn cronfa ac wedi
derbyn addewidion o dros fil o bunnoedd (swm mawr yr adeg honno)
tuag at Cronfa Eisteddfod 1912. A phan mae’r hanesydd yn edrych
ar restr y cefnogwyr fe sylweddola fod pobl gefnog y tu ôl i’r
cais, yn feddygon fel Dr Richard Humphreys, Cressington; Dr
Henry Jones, Upper Warwick Street, marsiandwyr fel Job Jones
(Bootle yn ddiweddarach), arweinwyr Prifysgol Lerpwl, fel yr
Is-Ganghellor Dr A W Dale, mab yr enwog bregethwr o Birmingham.
Roedd swyddogion y gwahanol gymdeithasau y tu ôl i’r cais fel
Cymdeithas Cymraeg Cilgwri, Undeb Gorawl y Cymry, Cymdeithas
Cymry Fydd Bootle, Cymdeithas Cymry Fydd Anfield a Chymdeithas
Cymrodorion Prifysgol Lerpwl. Ysgrifennydd y Gymdeithas honno
oedd neb llai na J Glyn Davies, bardd, ysgolhaig a gŵr o farn
bendant. Roedd y teulu o Lannerchymedd a fu’n werthwyr tai
llwyddiannus, y Venmores, Arthur a Williams Venmore, Anfield yn
gefnogol iawn a’r mwyafrif o arweinwyr y cymunedau Cymraeg.
Llofnododd y gweinidogion Cymraeg yr Apêl, fel y beirdd a’r
bugeiliaid, Pedr Hir, Pedrog, Hawen, y Parchedigion David Jones,
Edge Lane; Griffith Ellis, Bootle; J D Evans, Garston; James D
Evans, Catherine Street; Edmynd Griffith (a deithiau o Lerpwl i
ofalu ar ôl un o gapeli Cymraeg Ashton-in-Makerfield); Griffith
Hughes, West Kirby; R Aethwy Jones, Newsham; Richard Humphreys,
Chatham Street; W A Lewis o Eglwys Rydd y Cymry; David Powell,
y Bedyddiwr gweithgar; R W Roberts, Scaforth. Ond y mae llu o’r
gweinidogion amlwg heb roddi eu cefnogaeth, a’r mwyaf nodedig
erbyn hyn na thrafferthodd o gwbl oedd y Parchedig Lodwig Lewis,
Wallasey a thad y myfyriwr ifanc J Saunders Lewis. Hoffwn wybod
heddiw pam fod y Parchedig Lodwig Lewis heb roddi cefnogaeth i’r
cais na chwaith y parchedig William Owen, Webster Road a’i fab
dawnus ynta, Dr Gwilym Owen (Prifysgol Aberystwyth yn
ddiweddarach) a ddaeth yn arloesydd ysgrifennu am wyddoniaeth
trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n amhosibl erbyn hyn wybod. Ond
mae’n syndod, gymaint o syndod mewn can mlynedd fydd sylwi i’r
gwleidydd Rhodri Morgan gael ei anwybyddi rhag bod yn Llywydd
Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ag yntau’n
Weinidog ar y Cynulliad yn y ddinas lle cynhelid yr Ŵyl, ac yn
Aelod Seneddol dros y fangre lle cynhelir yr Ŵyl.
Y bedwaredd ddadl oedd cyfleusterau
Lerpwl o ran ‘neuaddau helaethion’ ar gyfer y cyfarfodydd a’r
hyn a elwid yn ‘cynadleddau’r Eisteddfod’. Byddai hyn yn ôl y
Pwyllgor Cais yn arbed codi ‘llys a phabell arbennig gogyfer â’r
Ŵyl’ fel y byddai’n ofynnol mewn aml i ardal. Ar ben hyn oll
bwriedid rhoddi o leiaf hanner yr elw a ddeilliai o’r Ŵyl
‘drosodd i’ch Trysorfa ac i’ch Cymdeithas chwi.’ Bargen dda ar
bob ystyr. Ac yn bumed roedd lleoliad Lerpwl yn fanteisiol i
deithio iddi o bob rhan o Deyrnas Unedig. Dyma’r gân a
seiniwyd:
Nad oes unman hafalid ein Dinas o ran nifer a
hwylustod y cyfleusterau teithio o ac iddi , sef gyda’r ffyrdd
haearn ac amryfal foddion eraill; y mae felly o bobman, eithr o
Gymru’n arbennig; nid oes ddinas, ychwaith, amgenach ei lletyau
clud, cysurus, a rhadlon ei hur a’i harlwy, gogyfer a’r miloedd
dyfodiad i’r Ŵyl.
Ac er bod bron pawb o arweinwyr gwleidyddol y
ddinas a trwch helaeth o arweinwyr diwylliant y Cymry wedi
arwyddo'r memorandwm dwyieithog hwn fe wrthodwyd y cais cryf
hwn, a phenderfynu lleoli Eisteddfod Genedlaethol 1912 yn
Wrecsam. Nid oedd cymhariaeth, ond peth felly yw cystadleuaeth,
mae’n hawdd cael cam ym myd pob Eisteddfod!
|