Anerchiad Arall
Her Aruthrol
Annwyl Aelodau
Cyfarchion mawr i bawb a fydd yn darllen yn
ofalus yr anerchiad hwn a hynny ar ddiwedd degawd cyntaf yr
unfed ganrif ar hugain. Bu 2009 yn flwyddyn ryfeddol o bwysig
yn ein hanes a bellach yr ydym yn ffyddiog iawn y gwelwn
wireddu’r freuddwyd o gapel llawer llai costus i’w gynnal a haws
ei dwymo. Rhaid cydnabod fod her aruthrol ger ein bron, a
hoffwn danlinellu hynny o dan chwech o benawdau.
1) Ffyddlondeb a dyfalbarhad
Dyma rinwedd werthfawr yn hanes
pob cymuned Gristnogol. Cedwais fanylion amdanoch ar hyd y
flwyddyn, hynny yw pan fyddaf yn cael y fraint o wasanaethu
Bethel. Ac at ei gilydd daw rhwng 30 a 35 ohonoch ar
gyfartaledd ynghyd i addoli ar fore Sul. Weithiau fe gawn 50 a
60 fel yn oedfa Y Teulu ym mis Gorffennaf. Dywedodd John Calfin
mai’r hyn sy’n digwydd mewn oedfa ydyw hyn: ‘The merciful
Father offers us his son through the word of the Gospel.’
Mae Duw wedi dod yn Iesu Grist i’n byd i gyflawni’r waredigaeth
yr oedd Abraham, Moses a’r proffwydi wedi ei ragfynegi ers
canrifoedd. Mae Duw fel y gwyddom wedi cyflawni gwyrth fwyaf
hanes sef cynnig gwaredigaeth i bobl bechadurus sy’n haeddu dim
ond barn ac alltudiaeth. Ond cymerwn gysur rhyddhaodd y daioni
a gofiwn yn ein hoedfaon, cwmni’r Iesu, grym gweddi, cysur y
Gair, gorfoledd y ffydd, glanhad yr Ysbryd Glân. Dywedodd y Dr
Bobi Jones:
‘Gwelais wir y gwynt wrth anwylo
briallen
Mor dyner â gweddi, a’r un mor gymen.’
Cychwynnodd y flwyddyn yn ein
hanes wrth Fwrdd yr Arglwydd ac mewn Cyfarfod Gweddi yn erfyn am
arweiniad o dan ofal Glenys Johnson, Beryl Williams, Ben Hughes
ac Anne Clitherow. Braint oedd i mi lunio ysgrif goffa iddi yn
y cylchgrawn Barn (Rhagfyr 2009/Ionawr 2010, t 36) o dan
y teitl Ann Clitherow (1941-2009). Dyma’r darn sy’n cloi’r
ysgrif: ‘Roedd yn arferiad gennym yn Heathfield Road, Lerpwl
i’w gwahodd i gymryd rhan yn ein Cyfarfod Gweddi ar ddechrau
blwyddyn. Pleser oedd gwrando arni, ei dewis o emynau, y
darlleniad a’r weddi ddwys, dirdynno. Gallaf ei gweld yn awr ar
nos Lun, 5 Ionawr 2009 yn yr Ysgoldy Mawr yn darllen gydag
eneiniad emyn gafaelgar T J Pritchard: “Beth fydd fy rhan ar
hyd ei misoedd maith?” A’r pwyslais a roddai ar linell olaf y
pennill: “Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law.” Credaf iddo gael
ei dymuniad. Trwy hynny collodd Cymry Lerpwl ferch nodedig.’ A
gellir dweud yr un peth am chwiorydd eraill a gollwyd, Miss
Eunice Thomas (oedd o fewn tri mis i fod yn gan mlwydd oed,
Glenys Jones, Woolton, Eirwen Roberts, Childwall a’r brawd
Aerwyn Jones. Chwith oedd clywed am farwolaeth cyn aelodau a’r
Parchedig Gwyn Hughes, Wrecsam a fu’n gymaint o gefn pan
symudodd yr Eglwys Fethodistaidd i’n plith yn y nawdegau. Y
mae’r colledion hyn yn ein gorfodi i roddi pwys arbennig ar
ffyddlondeb ar y Sul a noson waith.
At ei gilydd mae’r noson waith,
sef nos Lun, yn gweld nifer dda ohonom gyda’n gilydd yn arbennig
yn y cyfarfodydd a gynhelir o dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol.
Pathetig yw’r unig air i ddisgrifio’r gefnogaeth i’r Dosbarth
Beiblaidd, rhwng saith a deg ran amlwg, a hynny pan gawn gyfle i
drafod yr Ysgrythurau. Ond mewn cyfarfodydd eraill gall fod yn
well, er yn od iawn, nid yw cyfarfodydd trwy gyfrwng yr iaith
Saesneg yn apelio ryw lawer. Pwysig er hynny yw bod yn hyblyg a
ffyddlon er mwyn cynnal y dystiolaeth.
2) Cyfnod gwahanol
Mae’n rhaid cofio fod byd o
wahaniaeth rhwng 1968 pan ddeuthum i weinidogaethu’n eich plith
a 2009 pan yr wyf yn dal i’ch cyfarwyddo. Beth yw nodweddion
ein dyddiau?
a)
Wrth-sefydliadol.
Mae pob sefydliad o dan lach y cyfryngau a’r
‘cyhoedd’: capeli ac
eglwysi, enwadau,
Prifysgolion,
Aelodau Seneddol, y teulu traddodiadol.
b)
Anrhaddodiadol.
Nid etifeddu gwerthoedd neu wirioneddau o’r
gorffennol a wnawn, meddai
cymdeithasegwyr
ein
cyfnod, ond creu arferion o’r newydd yn ôl dymuniad y
foment.
c) Plwrariaeth.
Dyna’r realiti crefyddol. Nid un gwirionedd sydd,
meddir wrthym, ond llawer.
ch) Pragmataidd.
Mae’r gwirionedd yn wir os yw yn effeithiol ac i
hwyluso ein pererindod ddaearol.
d) Gweledol. Dyma ddylanwad
teledu. Y peth mawr yw’r argraff a
roddwn ar ein gilydd yn hytrach nag unrhyw
egwyddorion sydd yn ein
cyfareddu.
dd) Egalitaraidd. Rydym i gyd
ar un lefel. Pawb gystal â’i gilydd. Dychrynaf yn aml mewn cartref henoed ac ar
ward
ysbyty wrth glywed gofalydd
neu nyrs ddeunaw
oed yn
galw’r claf
sy’n
bedwar ugain oed gyda’i enw
bedydd, Dafydd neu Bill neu Jean.
Nid wyf yn y rhestr, o a) i dd),
wedi dihysbyddu holl natur ein cyfnod ond er mwyn goresgyn
problemau y mae’n rhaid cofio y nodweddion a nodais. Yn y capel
newydd bydd cyfle i ddod i’r afael â pheth o’r hyn a nodais, yn
arbennig b), c) a d). O leiaf yr ydym bellach wedi ymgodymu â
d) yn reit dda gan fod gennym beiriannau'r ‘power point’ ag
arbenigwyr ym mhersonau H Wyn Jones, J G Williams a Roderick
Owen; tra mae pedwar arall ohonom yn eu defnyddio weithiau, sef
Pat Williams, Nan Hughes-Parry, Yr Athro Emeritws David Alan
Price Evans a minnau. Dyna nifer dda, a gellir maes o law
ychwanegu at hyn a chynnal sesiynau i ddysgu’r grefft. Rhaid
holi yn ddwys a yw’r patrymau cyfredol yn addas i’r ail ddegawd
o’r ganrif newydd ac yn briodol i’n cymdeithas ddinesig ni yn
ninas Lerpwl. Oes yna arferion yn ein bywyd eglwysig sydd angen
eu diwygio a’i newid? Bydd y capel newydd yn adlewyrchu cyfnod
newydd o’r cadeiriau esmwyth i’r offeryn cerdd, cyfuniad o organ
a phiano, a phulpud symudol mae’n siŵr. Bydd pawb yn clywed a
cheir yr emynau o’n blaen fel na fydd angen Caneuon Ffydd
ond i’r rhai sy’n gwerthfawrogi’r tonau. Bydd cyfle i arbrofi
yn effeithiol ar lwybr Soli Deo Gloria (i Dduw y bo’r
Gogoniant). Gallwn bwysleisio fel Protestaniaid mai arddangos
ei ogoniant oedd diben holl weithredoedd Duw. Gogoniant yw’r
Gair i’w anwylo.
‘Y mae’r nefoedd yn adrodd
gogoniant Duw’ meddai’r Salmydd. Adnabyddwn y Crëwr, y
Cynhaliwr a’r Achubydd fel Duw’r Gogoniant, a’n braint ni, ac yn
wir yr holl greadigaeth, yw ymateb gan roddi yng ngeiriau
salmydd arall ‘foliant gogoneddus’ (gweler Salm 66, adnod 2).
Cydnabod y Gogoniant a wnawn yn ein cyfarfodydd, yn ein
pwyllgorau, yn ein sesiynau, ac yn ein gwaith o ddydd i ddydd.
Cynulleidfa Bethel:
‘Mynegwch ei ogoniant,
Tra dyrchafedig yw,
Mae’n ben goruwch y duwiau
Mae’n Arglwydd dynol-ryw.’
) Gwerthfawrogi ein
Harweinwyr. Mewn Presbyteriaeth rhoddir
cyfrifoldeb arbennig ar y Blaenoriaid, a bu Bethel yn hynod o
ffodus yn eu harweinwyr ar hyd y cenedlaethau fel y gwelwn yn y
gyfrol Codi Stêm a Hwyl yn Lerpwl. Rhoddwyd cyfle i’r
eglwys yn niwedd 2008 i ddewis ychwaneg o flaenoriaid a
syrthiodd y cyfrifoldeb ar Miss Mair Powell a’r Dr Pat Williams,
ac erbyn hyn atgyfnerthwyd Cyfarfod y Blaenoriaid yn fawr.
Cawsom gyfle fel Henaduriaeth y Gogledd-Ddwyrain i ordeinio'r
ddwy a hynny o flaen cynulleidfa gref yn eglwys Bethel ar 8
Ebrill. Pleser mawr i mi oedd gweld ordeinio Siân Morris (a
dderbyniais yn gyflawn aelod ym Methel pan oedd hi’n fyfyrwraig
ym Mhrifysgol Lerpwl) o eglwys Berthen, Licswm. Cam arall oedd
atgyfnerthu Pwyllgor Strategaeth a Stiwardiaeth a fu mor
weithgar ers ei gychwyniad yn y flwyddyn 2002. Un a fu’n
cynrychioli o’r adeg honno hyd heddiw yw Roderick Owen a
bodlonodd, er llawenydd mawr i mi, i barhau gan fod ganddo
gyfraniad pwysig i’w roi. Penderfynodd cynulleidfa Bethel
ychwanegu ato dri arall sef Mrs Mair Roberts sydd yn dal i ofalu
fod Ysgol Sul y plant yn dal mewn bodolaeth er gwaethaf y
lleihad mawr yn nifer y plant, Mr Ben Hughes, sydd bob amser yn
barod ei gymwynas i’n cymuned, a Mr R Ifor Griffiths, sydd a’i
ddawn gerddorol yn werth y bydd i’n caniadaeth fel cynulleidfa.
Diolchaf fel Gweinidog Emeritws yr eglwys am y cydweithrediad ac
fel Llywydd Cyfarfod y Blaenoriaid a Chyfarfod Pwyllgor
Stiwardiaeth a Strategaeth. Dymunaf yn dda i bob un o’r
arweinwyr hyn a nerth Duw i ddal y cyfrifoldebau a ddaw arnom yn
ystod y ddwy flynedd nesaf.
4) Croesawn ein
Cyd-Gristnogion a’n hymwelwyr
Bu aml i gyfle yn 2009 i groesawu
Cymry ar ymweliad â ni{, ?} fel yr Henaduriaeth ym mis Ebrill, a
Rali Genhadol ar 25 Mehefin gyda’r efengylydd modern, y
Parchedig Tecwyn Ifan yn sôn am ei brofiad yn Llangernyw a’r
gwrthwynebiad gan Gymry Cymraeg i gyfarfod o fewn muriau’r
capel, ond yn barod i drafod pynciau’r ffydd mewn lle niwtral
fel neuadd y pentref. Rhyfedd o fyd! Rwy’n grediniol gredu fod
hynny’n wir am Gymry Cymraeg dinas Lerpwl. Mae llawer ohonynt
yn barod i ddod i gyngerdd ond yn amharod i ddod i oedfa. Bydd
angen ar y capel newydd bwyllgor i genhadu, a gwn fod awydd
felly yn ein plith. Yn y cyfamser y mae croeso i bawb i’n
cymdeithas yn 2010. Braf oedd cael croesawu Mr Ken Pritchard a
Mr Bill McEvoy yn aelodau newydd eleni, a bedyddio Dafydd
Caradog ar Ddydd Gŵyl Ddewi 2009.
Bu nifer o bererindodau i Lerpwl
yn ystod yr haf a chawsom wibdaith Ysgol Sul Llangwm ym mis
Mehefin, a phererindod Capel Llandrillo-Yn-Rhos ym mis
Gorffennaf. Mawr yw ein diolch i’n chwiorydd am eu parodrwydd
bob amser i hulio’r byrddau ar gyfer ein hymwelwyr. Dyma
weithredu Cristnogol o’r radd flaenaf, a derbyniais nodyn adeg y
Nadolig oddi wrth Gôr Hogia’r Ddwylan yn dweud nag anghofir am
hir amser wledd chwiorydd Bethel. Er mai Cymdeithas
Etifeddiaeth Glannau Mersi sy’n weithgar ac yn cadw’r fflam
ynghyn, ac felly yn gyfrifol am drefniadau Gŵyl John Gibson, ein
chwiorydd ni sydd yn ysgwyddo’r gwaith. Hwy, yn enw ein capel
a’r Gymdeithas, fu’n paratoi lluniaeth a chroesawu ymwelwyr wrth
y byrddau adeg ymweliadau’r Henaduriaeth, y Rali, a
Phresbyteriaid Llandrillo-yn-rhos.
5) Cyfathrebu gyda’r
gymdeithas ‘ddiffydd, seciwlar’ o’n hamgylch
‘Ynys Afallon’ yw ein cymuned o
fewn canllath i Penny Lane sy’n adnabyddus led led y byd, ond
mae’n bwysig ein bod yn cofio ein bod ni yn rhan o gymunedau
Wavertree, Allerton, Mossley Hill, ac yn wir dinas Lerpwl i
gyd. Siom i mi oedd i ni fethu cynnal Oedfa Ddinesig y Cymry er
i Faer y Ddinas, y Cynghorydd Mike Storey, bledio o leiaf dair
gwaith wrthyf am gael dod. Ond am amryw resymau nid ydym yn
sylweddoli pwysigrwydd y digwyddiad ac yn anghofio'r pwyntiau a
wneuthum eisoes yn yr adroddiad hwn (gweler yn arbennig c) ac
ch)). Gallaf eich sicrhau fod yr oedfa honno a chanlyniadau
pellgyrhaeddol a bod arweinwyr dinesig yn edrych ymlaen at gael
dod atom, a mawr obeithiaf y gallwn gynnal oedfa o’r fath yn y
dyfodol agos.
Braf oedd cael cyfle i godi arian
tuag at weithgarwch Hefin a Bethan Rees dros dlodion Uganda a
thrwy’r mudiad Spotlight on Africa, Harpenden. Trefnwyd
Ffair yr Haf ar 20 Mehefin yn ein maes parcio i godi arian a
chafwyd elw o £375. Trwy garedigrwydd deg unigolyn arall a swm
o £1,250 o’r elusen Gobaith mewn Gweithrediad, llwyddwyd i
drosglwyddo ym mis Medi y rhodd anrhydeddus o £2,050. Gorchwyl
haelionus o eiddo Mrs Mona Bowen oedd cyflwyno rhodd at y gwaith
yn lle anfon cardiau Nadolig, a braf yw gwybod ei bod wedi
cartrefu yn Aberystwyth. Anrhegwyd hi gennym fel eglwysi –
Bethel a Bethania – am haelioni cyson i Gymry Lerpwl.
Fel eglwys cydweithredwn gyda llu
o gymdeithasau ac elusennau allanol. Profiad pleserus oedd cael
ymweld â Synagog Allerton ar ei newydd wedd a sylwi ar fenter y
gymdeithas Iddewig yn ne Lerpwl. Mantais fawr o’u heiddo yw
iddynt fedru cwblhau’r cyfan a thrwy hynny fodloni aelodau’r
gymuned a phobl y cylch. Mae edrych ar yr adeilad o Mather
Avenue neu Booker Avenue yn bodloni’r llygaid. Mae’r cyfan yn
toddi’n dda i’r amgylchedd sydd yn gwbl allweddol i’r llewyrch
sydd ar yr ymdrech.
6) Cofio John Calfin
(1509-1564)
Dymuniad John Calfin, yn ôl ei
olynydd a’i gofiannydd Theodore Beza, oedd cael ei gladdu mewn
mangre di-nod mewn mynwent yn Genefa heb yn oed garreg i nodi’r
fan lle gorweddai. Mae’n debyg ei fod ef yn y cwmwl tystion yn
rhyfeddu ein bod ni fel Cymry’r Glannau wedi trefnu digwyddiadau
ym Methel a Seion i nodi pumcanmlwyddiant ei eni. Fel un a fu’n
pori yn gyson yn y gyfrol fawr, Bannau’r Grefydd Gristnogol,
yn darlithio arno, ac yn llunio erthyglau ar ei gyfraniad
cyfaddefaf imi ddysgu cryn lawer yn ei gwmni. Dyma i chwi
grynodeb byr o’i safbwynt arnom fel cymuned Bresbyteraidd gan
gofio mai ef yw ein ‘tad ni oll’:
· Dylai
bugail pobl Dduw fod â chonsýrn am ei gynulleidfa.
· Nid
oes lle yn yr Eglwys Ddiwygiedig i weinidogion swrth a
dideimlad.
·
Heb bregethu nid oes
ffydd.
· Yr hyn sydd yn hanfodol mewn
addoliad ydyw dathlu, diolch, moli a datgan yn glir
ein bod yn gogoneddu Duw a’n
galwodd yn ei rad yn feibion a
merched iddo ac yn frodyr a chwiorydd yng Nghrist.
· Bu Crist ein Ceidwad yn eiriol
drosom. Dyma’i weddi: ‘Nid dros y byd yr wyf
yn gweddïo ond dros y rhai a roddaist
i mi... a
mi a ogoneddwyd ynddynt.’ (Ioan 17: 9,
10). Sut y caiff ei
ogoneddu yn ei bobl yw'r cwestiwn? Fe gaiff
ei ogoneddu fel eu
Gwaredwr, drwy farw drostynt, ar y Groes. Gallwn
foli Duw yn emyn y Perganiedydd:
‘N’ad fod gennyf ond d’ogoniant
Pur, sancteiddiol, yma a thraw,
yn union nod o flaen fy amrant
Pa beth bynnag wnêl fy llaw:
Treulio ‘mywyd,
F’unig fywyd, er dy glod.’
Gweddïwn y cawn nerth i dreulio’n dyddiau yng
nghymdeithas Bethel ar amser pwysig yn ei hanes ac y caiff yr
arweinwyr a’r aelodau, y pensaer a’r adeiladwyr, rwyddineb i
ofalu ar ôl un o gysegr leoedd y Duw daionus. Y mae her
aruthrol o’n blaen yn y flwyddyn 2010.
Yr eiddoch yn yr Efengyl
D Ben Rees
Gweinidog Emeritws
2 Ionawr 2010
Caplaniaeth
Cymraeg i ofalu am y Cymry sy’n byw yma ac sy’n dod i’r
Glannau o Gymru am gyfnod i ysbytai, colegau a carchardai
Welsh Chaplaincy
to
care for the Welsh who live on Merseyside and who come for short
stays in hospitals, colleges and prisons in the area.
(6) (7)
CAPLANIAETH GLANNAU’R
MERSI
GWAITH Y CAPLAN
Mae’r caplan yno i
ofalu am y rhai sy’n dod o Gymru i aros am sbel ar y Glannau
mewn ysbytai, colegau neu garchardai. Mae yno hefyd i’r Cymry sy’n
byw yn Lerpwl a’r cyffiniau ers tro, yn arbennig yr henoed sy
methu mwyach mynd allan, mae rhai yn byw mewn cartrefi henoed,
eraill yn gaeth i’w cartrefi eu hunain ond yn mwynhau cael
cysylltiad hefo rhywun Cymraeg.
HANES BYR - DDOE A
HEDDIW
Mae Caplaniaeth wedi
bod yn Lerpwl a Bootle a’r cyffiniau trwy waith cydwybodol
gweinidogion i lawr y blynyddoedd, a hefyd gwyr a gwragedd a
apwyntiwyd yn arbennig fel Hugh Roberts, Bootle, John Evans,
Beaconsfield Road a’r Chwaer Kate Evans, Edge Lane.
Ond, ers 1984,
oherwydd lleihad yn nifer y gweinidogion, cafwyd apwyntiad swyddog
arbennig i wneud gwaith caplan ar Lannau Mersi, i ail-gydio yn
hanes gwych y gorffennol.
Heddiw, yn dilyn John
Sam Jones, Dafydd Rees a Rachel Gooding - bob un wedi gwneud dydd
da o waith yn y gaplaniaeth - mae Eleri Edwards wedi bod yn gaplan
o Medi 1996 hyd mis Mai 2004. Yna yn Mis Mai 2005 dechreuodd
ei olynydd ar y gwaith sef y Parchedig Nan Powell-Davies, Wyddgrug.
BETH YW’R GWAITH ?
Mae’r caplan heddiw
fel ddoe, yn ymweld â phobl yn yr ysbyty a’r carchar, yn
gwrando arnynt ac yn sgwrsio. Mae’n barod i helpu mewn unrhyw
ffordd yn ôl yr angen ac yn arbennig i gadw sgwrs yn gyfrinachol
a gweddïo dros y claf a’r caethiwus. Mae hi yn barod i adrodd
emyn neu ddarllen y Beibl a gweddïo, a rhoi’r Sacrament o Swper
yr Arglwydd neu Fedydd os dyna yw dymuniad yr unigolyn.
Mae’r caplan hefyd
ar ddiwedd y ffôn ac yn awyddus i ymateb i unrhyw un o Gymru neu
sy’n trigo yn Lerpwl a’r cyffiniau ac sy’n teimlo’r awydd
i siarad Cymraeg neu i wybod beth sy’n mynd ymlaen ar y Glannau
ymysg y Cymry mewn Capel a Chymdeithas. Hynny yn arbennig i
fyfyrwyr ar ddechreu eu cyrsiau neu o gwmpas yr arholiadau; yn
ogystal ag i nyrsys a doctoriaid neu swyddogion eraill sy newydd
cyrraedd yn y ddinas ac yn awyddus i fwrw gwreiddiau.
CYSYLLTU
Mae nifer o deuluoedd
yn cysylltu i ddweud bod rhywun yn dwad i Lerpwl ac yn rhoi’r
manylion perthnasol, sef:
chyfeiriad y carchar
gan fod mwy nag un yn y talgyrch
Os bosib, mae’n dda i
ofyn i’r claf neu bwy bynnag sy’n dod atom os hoffan nhw weld
rhywun Cymraeg sy’n dod yn enw holl eglwysi a enwadau Cymru. Mae
seciwriti yn llym iawn ym mhob man y dyddiau yma ac felly nid
ydyw’n bosib i’r caplan fynd o gwmpas heb wybodaeth gywir o’r
person a’r lle i’w ffeindio a chofier felly y cyfarwyddiadau.
PAM CAPLAN?
Cofier yr alwad o
Efengyl Mathew 25: 36,37:
Meddai Iesu Grist: "...bûm
yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref; bûm ...yn glaf ac
ymwelsoch â mi; bûm yng ngharchar a daethoch ataf."
Dyna fraint y disgybl o hyd
MANYLION Y
GAPLANIAETH
Parchg. Nan Wyn Powell-Davies, B.TH.
ffôn y caplan: 01352 753668
ebost :
caereini@tesco.net
Anfonwch neges trwy’r we ac fe gaiff groeso
Y
caplan yn sgwrsio hefo swyddog
Yr
adnoddau!
Caplan
Parchedig Eleri Edwards
Paratowyd
y gwaith gan y Parchedigion Eleri Edwards a Dr D. Ben Rees.
This has been
prepared by Reverend Eleri Edwards and Professor D. Ben
Rees.
Chwefror
2002
(6) - Ffôn:
01512807808 - ysbytai Broadgreen, Royal Liverpool, Alder Hey, ac
eraill
|