Braslun o Hanes Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi (
200-2020 )
Gan yr Ysgrifennydd, Dr Arthur Thomas, Allerton, Lerpwl.
Mewn cyfnod o ansicrwydd calondid o’r mwyaf yw
edrych yn ôl ar yr hyn mae’r Gymdeithas wedi ei gyflawnu ers ei
sefydlu ar droad y ganrif gyda D. Ben Rees yn gadeirydd, ac sy’n
dal yn egniol wrth y llyw. Bu ei wybodaeth ef o Gymry Lerpwl yn
gymhorth inni fel Pwyllgor gweithredu gyda rhaglen hynod o
uchelgeisiol. Erys tri aelod o’r pwyllgor cychwynol yn ffyddlon
sef Beryl Williams, Dr Pat Williams a Rachel Gooding (Trysorydd)
hyd heddiw, gyda Brian Thomas, Nan Hughes Parry, Elin Bryn Boyd a
minnau yn ysgrifennydd. Yn fras, bwriad y Gymdeithas yw dathlu
cyfraniad Cymry blaenllaw i fywyd a diwylliant Cymraeg ar y
Glannau ac yng Nghymru ac i’r gymdeithas leol.
Ar gyfartaledd cynhaliwyd un neu ddwy ŵyl bob
blwyddyn, gyda eithriad sylweddol yn 2008 pan oedd Lerpwl yn
‘Ddinas Diwylliant’. Trefn gŵyl dros y penwythnos yw darlithiau ar
fore Sadwrn, cyngerdd yn yr hwyr a gwasanaeth o ddiochgarwch ar
fore Sul. Mae’r hanes yn hynod drawiadol. Gwahoddwyd rhyw ugain o
ddarlithwyr blaenllaw, heb gyfrif cyfraniadau gan aelodau o’r
pwyllgor. Ymysg enwau cyfarwydd mae Wyn James, Robin Gwyndaf, Gwyn
Thomas, Deryn Rees-Jones, Trevor Fishlock, Elvey Macdonald, Huw
Edwards, Peredur Lynch a’r paragon ddarlithydd Hywel Teifi
Edwards. Daeth rhyw bymtheg o gôrau atom gan gynnwys, Côr y Rhos,
Trelawnyd, Brythoniaid, Tŷ Tawe, Y Porthmyn a Ieuenctid Môn. Hefyd
cafwyd cyfraniadau cofiadwy gan Llyr Williams, Robat Arwyn, Sion
Goronwy, Trebor Edwards, Huw Ynyr a Robin Huw Bowen.
Gweithred gyntaf y Gymdeithas yn 2002 oedd gosod
carreg ar fedd Gwilym Deudraeth ym mynwent Allerton. Wedyn
gosodwyd placiau ar gartrefi arbennig ac adeiladau crefyddol,
megis cartref Saunders Lewis yn Wallasey, safle capel Stanley
Road, Bootle, placiau i gofio Henry Rees, Chatham Street, a’i
frawd Gwilym Hiraethog, Grove Street. Gosodwyd plac hefyd yn
Devonshire Road, cartref J. Glyn Davies a George Ll. Davies. Wedi
hynny bu llu o wyliau i anrhydeddu unigolion, megis y cerflynudd
John Gibson, Pedrog, Moelwyn, John Thomas (tynnwr lluniau), a
David Roberts. Trefnwyd gwyliau yn olrhain cyfraniadau cerddorion,
adeiladwyr, cyhoeddwyr, y Gwasanaeth Iechyd, ac i ddathlu deugain
mlynedd o’r Angor.
Efallai mae y gwyliau mwyaf cofiadwy oedd dwy ŵyl
yn gysylltiedig a’r Mimosa (2008 a 2015) a Gŵyl Hedd Wyn
(2017). Gobeithiwyd ar un adeg gosod cofeb i’r Mimosa ar y
Pier Head ond ni fu modd gwneud hynny. Felly penderfynwyd cael
model o’r llong a’i chyflwyno i’r Amgueddfa Forwrol, lle mae yn
dal yn atyniad poblogaidd. Yn 2015 daeth cyfle i osod cofeb ar lan
yr afon (trwy haelioni Peel Holdings), ac fe gafwyd rhaglen
gynhwysfawr a fu yn atyniad mawr. Llywyddwyd y seremoni
ddadorchuddio gan Huw Edwards ym mhresenoldeb Yr Arglwydd Faer,
Prif Weinidog Cymru, yr Archdderwydd, Llysgennad yr Arianin, a
Chôr Ysgol yr Hendre, Trelew. Ym mis Medi 2017 daeth cynulleidfa
luosog i Ŵyl Hedd Wyn ym Mharc Penbedw i fwynhau darlithiau gan
D.Ben Rees, Robert Lee, Peredur Lynch a Huw Edwards, dadorchuddio
cofeb i Hedd Wyn yn y Parc, cadeirio’r bardd gan yr Archdderwydd a
chyngerdd gan ddau gôr yn yr hwyr. Casglwyd dros ugain mil er hybu
y ddwy ŵyl ac fe paratowyd dwy rhaglen gynhwysfawr gan y cadeirydd.
Elenbi yr oeddem wedi bwriadu gweld dau ddigwyddiad yn chwe mis
olaf y flwyddyn hon sef Gwyl Emyr Wyn Jones a Enid Wyn Jones a
hynny ar 19 a 20 Medi, gwrthrychau teilwng iawn o’n gwrogaeth.
Yna bwriedid cyhoeddi cyfrol Saesneg amdanon Liverpool Welsh :
A Remarkable History yn mis Tachwedd 2020 ond yn awr fe gynhelir
lawnsiad y gyfrol hardd hon yn haf 2021, a diolchwn fod y
rhoddion yn dal I ddod atom ac y cawn gyfle I nawddogi y gyfrol
hyd eithaf ein gallu. Felly gofid ydyw ymddiheurio ond nid oes
ffordd arall ae ein cyfer.
|